Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Dirprwy Arweinydd yn ennill Gwobr Cydraddoldeb!
Dydd Iau 16 Mawrth 2023
Mae'r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Jane Gebbie, wedi ennill Gwobr Ron Todd am Gydraddoldeb ar ôl cael ei henwebu gan fwy nag 11 o sefydliadau neu unigolion.
Gan nad oedd hi’n gallu mynychu’r seremoni wobrwyo, proffil uchel, yn Narlith Goffa Ron Todd yn Llundain, derbyniodd y Cynghorydd Gebbie ei gwobr yn y Swyddfeydd Dinesig ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 19 Mawrth.
Roedd Ron Todd, Arweinydd Undeb Llafur yn Lloegr, yn ymladd am gydraddoldeb cymdeithasol - ethos sy'n sail i holl waith Sefydliad Ron Todd. Mae gwobrau’r Ddarlith Goffa yn cydnabod gwaith pobl sy’n ceisio cyflawni tegwch cymdeithasol i bawb.
Pleser a braint llwyr yw derbyn y wobr hon am gydraddoldeb. Rwyf mor ddiolchgar o fod wedi cael fy nghydnabod am hyrwyddo elfen sydd mor agos at fy nghalon. Diolch i bawb am fy enwebu, ac rwy’n ymrwymo i barhau ar yr un llwybr – yn ymdrechu i gyflawni cydraddoldeb bob tro mae’r cyfle’n codi.