Bydd Cymru’n pleidleisio ddydd Iau 7 Mai 2026. Ewch i'n tudalen wybodaeth Etholiad y Senedd.
Dirwy o bron i £6,000 i berchennog eiddo gwag ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ôl methu dro ar ôl tro ag ymgysylltu
Dydd Mercher 06 Mai 2026
Mae perchennog eiddo gwag ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael gorchymyn i dalu £5,950 gan Lys Ynadon Caerdydd ar ôl methu dro ar ôl tro ag ymateb i geisiadau statudol am wybodaeth.
Cyhoeddodd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) yr hysbysiad o dan Adran 16 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, gan ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog ddarparu manylion sydd eu hangen i gefnogi ymdrechion i ddod â'r eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd. Er hyn, methodd y perchennog ag ymgysylltu.
Yn y gwrandawiad, tynnodd ynadon sylw at ddiffyg cydweithrediad y perchennog a'r effaith a gafodd hyn ar ymdrechion i atal yr eiddo rhag dadfeilio ymhellach. Dywedon nhw ei bod yn “wirion anwybyddu cyfleoedd i ddod a chael sgyrsiau”, gan ychwanegu mai nod y camau gorfodi oedd dod â'r perchennog “i’r bwrdd” ac atal y cartref rhag mynd yn adfail.
“Nid yw cartrefi gwag yn sefyll yno heb sylw. Pan fyddant yn cael eu gadael yn wag, gallant ddenu fandaliaeth, creu pryder yn y gymuned, a chynrychioli cyfle a gollwyd i deuluoedd sydd angen tai ar frys. “Ein cam cyntaf bob amser yw ymgysylltu'n adeiladol â pherchnogion eiddo, ac mewn llawer o achosion mae'r cydweithrediad hwn yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Fodd bynnag, pan fydd perchennog yn methu dro ar ôl tro ag ymateb i geisiadau ffurfiol am wybodaeth, mae gennym gyfrifoldeb clir i gymryd camau pellach. “Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at ganlyniad methu ag ymgysylltu â'r cyngor. Rydym yn annog perchnogion eiddo gwag hirdymor i weithio gyda GRhR i ddod â chartrefi yn ôl i ddefnydd ac osgoi camau gorfodi pellach.”