Disgyblion lleol yn cyrraedd y brig wrth gael eu henwi’n bencampwyr STEM Fformiwla 1 Rhyngwladol

Dydd Iau 16 Ebrill 2026

Mae tîm o ddisgyblion Blwyddyn Chwech o Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg wedi cael eu henwi'n Bencampwyr Cenedlaethol Cynradd STEM y DU ar gyfer 2026 ar ôl ennill yn y rowndiau terfynol yn erbyn 70 o ysgolion eraill yn ogystal â thimau rhyngwladol o Hong Kong, yr Almaen a Singapore. 

Wedi'i chynnal yn y Magna Science Adventure Centre yn Rotherham, trefnwyd Rownd Derfynol Genedlaethol STEM Racing UK 2026 fel rhan o'r gystadleuaeth STEM Fformiwla 1 ryngwladol, sy'n annog plant i ddatblygu sgiliau ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg trwy ddylunio ac adeiladu model o gar Fformiwla 1.

Ar ôl dewis yr enw Phoenix Fires i’w tîm, enillodd y chwe disgybl wobrau am y Car a Adeiladwyd Orau yn ogystal ag am eu Portffolio Dylunio a Pheirianneg.

Y disgyblion blwyddyn chwech Anya, Celyn, Imogen, Magi, Loki a Joseff o Ysgol Cynwyd Sant yn dathlu eu llwyddiant fel Pencampwyr Cenedlaethol Cynradd STEM y DU ar gyfer 2026.
"Rydyn ni mor falch o Anya, Celyn, Imogen, Magi, Loki a Joseff am eu cyflawniad anhygoel yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol STEM Racing UK. Gyda chefnogaeth eu hathrawes, Sian Thomas, a Chris Harris o STEM Cymru, maen nhw wedi dangos creadigrwydd a phenderfyniad gwirioneddol, ac wedi cyflawni llwyddiant eithriadol."
"Hoffwn longyfarch Phoenix Fires am eu hymroddiad, eu ffocws a'u gwaith caled. Mae'r prosiect peirianneg STEM Fformiwla Un yn helpu i ddatblygu peirianwyr y dyfodol drwy annog dysgwyr i gymhwyso ystod o sgiliau trawsgwricwlaidd. Mae'n parhau i fod yn gystadleuaeth fawreddog, a dylai'r disgyblion a'r ysgol deimlo'n falch iawn o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni."

Chwilio A i Y

Back to top