O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Disgyblion yn bod yn greadigol wrth chwarae’n gynaliadwy yn ystod yr Wythnos Ailgylchu hon
Dydd Gwener 18 Hydref 2024

Yr wythnos yma, dysgodd disgyblion Ysgol Gynradd y Garth ym Maesteg sut i fod yn gynaliadwy drwy chwarae, mewn gweithdy creadigol a gynhaliwyd gan Plan B Solutions, darparwr gwastraff a rheoli y cyngor, i nodi Wythnos Ailgylchu y DU. (14-20 Hydref).
Wrth dynnu sylw at y thema eleni, ‘Achubwch Fi’, addysgwyd y disgyblion am bwysigrwydd ‘achub’ ac ailgylchu eitemau bob dydd y cartref o’r bin sbwriel, er mwyn codi ymwybyddiaeth o gylch bywyd deunyddiau, wrth leihau, ail ddefnyddio ac ailgylchu gwastraff.
Wrth annog disgyblion i ddefnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu wrth chwarae, dangosodd y gweithdy pa mor hawdd yw ail ddefnyddio deunyddiau fel cardfwrdd, poteli plastig a ffabrig a’u haddasu i deganau ac offer creadigol eraill.
Yn ogystal, mae’r gweithdy yn cyd-fynd ag ail-lansiad y cynllun ‘Pod Gweithgaredd’ gan y cyngor, cynllun a gychwynnwyd gan yr Adran Pobl Ifanc Egnïol mewn ysgolion ledled y fwrdeistref sirol.
Sefydlwyd y fenter yn wreiddiol yn 2012 i gefnogi pwysigrwydd chwarae, wrth wella a chyfoethogi amser chwarae ysgolion. Mae deunyddiau gwastraff gan fusnesau a chartrefi yn eu haddasu a’u gwneud yn ddiogel ar gyfer y Podiau Gweithgaredd, cyn eu gyrru i’r ysgolion sy’n cymryd rhan, er mwyn i’r disgyblion gael chwarae’n greadigol â hwy y tu allan.
Os hoffech ddysgu mwy am gynllun Pod Gweithgaredd y cyngor, cysylltwch â Kelly Wake.kelly.wake@bridgend.gov.uk os gwelwch yn dda.
"Mae'n wych gweld y disgyblion yn cymryd diddordeb ym mhwysigrwydd cynaliadwyedd mewn ffordd mor greadigol ac addysgiadol. Mae digwyddiadau fel y rhain yn adlewyrchu ein hymrwymiad i addysgu ac annog cyfranogiad led-led y gymuned i leihau gwastraff ar draws y fwrdeistref sirol." "Mae dysgu plant beth yw gwerth defnyddio deunyddiau mae modd eu hailgylchu a'u hailddefnyddio yn hanfodol wrth lywio eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn y dyfodol ac mae hefyd yn ffordd ragorol o fwydo eu dychymyg." "Llongyfarchiadau, a da iawn i’r holl ddisgyblion a gymerodd ran yn y gweithdy heddiw, Hoffwn i ddiolch i'n partneriaid, Plan B Management Solutions, a Groundworks UK am hwyluso'r gweithdy, ac am eu cyfraniad o ddeunyddiau gan y ganolfan ailgylchu gymunedol ym Maesteg, a'i siop ailddefnyddio, 'The Sidings'."