Disgyblion yn helpu i yrru neges ailgylchu ar draws y fwrdeistref sirol
Dydd Llun 15 Mehefin 2026
Mae mwy na 750 o ddisgyblion Blwyddyn 7 o ysgolion cyfun ar draws y fwrdeistref sirol wedi cymryd rhan mewn prosiect addysg gwastraff ac ailgylchu cyffrous a gyflwynwyd gan dîm gwastraff ac ailgylchu'r cyngor.
Trwy ystod o weithdai rhyngweithiol un awr o hyd, dysgodd disgyblion bopeth am ymddygiadau ailgylchu cyfrifol, gan gynnwys yr hyn y gellir ei ailgylchu ac na ellir ei ailgylchu, wrth archwilio pwysigrwydd cynaliadwyedd a thaith deunyddiau o'r echdynnu a'r defnydd hyd at waredu, trin ac ailddefnyddio.
Fel rhan o'r fenter, gwahoddwyd y disgyblion i arddangos eu creadigrwydd trwy gystadleuaeth dylunio posteri ar gyfer cerbydau ailgylchu'r cyngor.
Bydd y tri dyluniad buddugol, a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg yn Llangynwyd, ac Ysgolion Cyfun Porthcawl a Maesteg nawr yn cael eu harddangos ar gerbydau ailgylchu i helpu i hyrwyddo negeseuon ailgylchu cadarnhaol o fewn cymunedau ledled y fwrdeistref sirol.
Rwy'n falch iawn o weld y creadigrwydd a'r brwdfrydedd y mae disgyblion yn eu dangos, a hoffwn i ddiolch i'r holl ysgolion, staff a disgyblion sydd wedi cymryd rhan am eu cefnogaeth i wneud y prosiect mor llwyddiannus. Mae addysgu pobl ifanc am ailgylchu a chynaliadwyedd yn hanfodol os ydym am adeiladu cymunedau gwyrddach a mwy amgylcheddol gyfrifol ar gyfer y dyfodol. Llongyfarchiadau i ddisgyblion Blwyddyn 7 o Ysgol Heronsbridge, Coleg Cymunedol y Dderwen, ac Ysgolion Cyfun Llangynwyd, Brynteg, Porthcawl a Mynydd Cynffig a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Roedd safon y ceisiadau yn wych, a dylai'r disgyblion fod yn hynod falch o'u gwaith a'r negeseuon cadarnhaol y maent yn helpu i'w hyrwyddo mewn ysgolion, cartrefi a chymunedau. Da iawn i'r disgyblion buddugol. Rydym yn falch o arddangos y dyluniadau hyn ar ein cerbydau i helpu i ledaenu'r negeseuon ailgylchu pwysig hyn ar draws y fwrdeistref sirol.