Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau AM DDIM i bobl 11 oed a hŷn drwy gydol y gwyliau - Rhaglen yr Haf
Disgyblion Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn ymuno â grwpiau cymunedol i glirio ardal goetir cyn datblygiad ysgol newydd
Dydd Gwener 18 Gorffennaf 2025
Ymunodd disgyblion o Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig â grwpiau cymunedol lleol yn gynharach yr wythnos hon i fynd i'r afael â phroblem sbwriel mewn coetir lleol, yn agos at y safle sydd wedi'i glustnodi ar gyfer eu hysgol newydd sbon.
Trefnwyd yr ymweliad casglu sbwriel gan y cyngor a'r ysgol ar ôl i arbenigwyr ecoleg o Wildwood Ecology Limited ddarganfod llawer o sbwriel wedi'i wasgaru ledled ardal y coetir yn ystod eu harolygon bywyd gwyllt, gan gynnwys caniau diodydd a phecynnau bwyd.
Roedd y llanast yn edrych yn annymunol ac hefyd yn fygythiad posibl i amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys pathewod y mae’r ardal yn gartref iddynt.
"Mae'n wych gweld ein pobl ifanc yn diogelu eu hamgylchedd lleol mewn ffordd mor weithgar. Mae'r digwyddiad casglu sbwriel hwn yn dangos yn berffaith sut gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd – ysgolion, cynghorau, a grwpiau cymunedol – i wneud gwahaniaeth go iawn i'n bywyd gwyllt a'n cymuned leol."
Trefnwyd y fenter yn sgil cynllunio gofalus ar gyfer datblygiad yr ysgol newydd. Roedd Wildwood Ecology, sy'n darparu gwasanaethau ymgynghori arbenigol ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, wedi bod yn datblygu strategaethau lliniaru ar gyfer nadroedd defaid oedd ar hen safle rhandiroedd Pwllygath pan welon nhw’r pathewod gerllaw.
Yn ystod ymweliad â’r safle ym mis Ebrill, cerddodd tîm y prosiect trwy dir yr ysgol, ardal y rhandiroedd a'r coetir cyfagos gyda'r ecolegydd. Er eu bod yn falch o gadarnhau bod digon o gyfle i roi camau ar waith i ddiogelu’r pathewod, roedd gweld cymaint o sbwriel yn amlwg yn bryder yr oedd angen mynd i'r afael ag ef.
Ymatebodd y gymuned leol yn syth. Yn dilyn gweithdy asesu risg trylwyr ym mis Mehefin a sesiynau briffio cynhwysfawr ar ddiogelwch, roedd gan y disgyblion a’r gwirfoddolwyr bopeth oedd ei angen arnyn nhw ar gyfer y dasg. Darparodd KPC Youth declynnau codi sbwriel a dal biniau, festiau diogelwch amlwg a bagiau sbwriel, a gwnaeth y cyngor gyflenwi blychau casglu gwydr, cynwysyddion eitemau miniog, gorsafoedd glanhau esgidiau, a dŵr yfed. Sicrhaodd yr ysgol fod diogelwch ar flaen y meddwl a threfnwyd bod offer cymorth cyntaf ar gael.
Aethpwyd ati i glanhau drwy dargedu gwahanol rannau o’r ardaloedd coetir ar y naill ochr a'r llall i'r droedffordd, gan osgoi'r mannau lle mae’r pathewod wedi ymgartrefu. Mae’r mannau hynny wedi eu mapio a'u diogelu.
"Mae'r disgyblion wedi ennill profiad ymarferol gwerthfawr yn stiwardio’r amgylchedd ac wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ymdrechion cadwraeth bywyd gwyllt. “Dim ond un elfen o'r ymagwedd feddylgar sydd ar waith ar gyfer datblygiad yr ysgol newydd yw’r digwyddiad casglu sbwriel hwn, ac mae ystyriaethau ecolegol a chymunedol wrth wraidd y broses gynllunio."

