Disgyblion Ysgol Gynradd y Drenewydd yn Notais yn disgleirio mewn cystadleuaeth gyfansoddi caneuon genedlaethol

Dydd Mawrth 28 Hydref 2025

Mae grŵp talentog o ddisgyblion o Ysgol Gynradd y Drenewydd yn Notais, Porthcawl, unwaith eto wedi cynrychioli Cymru ar y llwyfan cenedlaethol ar ôl cael eu dewis i berfformio yng Nghystadleuaeth Cyfansoddi Caneuon Genedlaethol Ysgolion y DU yn Llundain am yr ail flwyddyn yn olynol.  

Allan o fwy na 350 o ysgolion ledled y DU, Ysgol Gynradd y Drenewydd yn Notais oedd yr unig ysgol a wahoddwyd i berfformio eto, gyda 15 o ddisgyblion a dau aelod o staff yn teithio i Lundain i berfformio eu cân wreiddiol 'We Believe In You' o flaen cynulleidfa fyw a phanel o arbenigwyr y diwydiant cerddoriaeth.

Er gwaethaf cystadleuaeth frwd gan ysgolion, gan gynnwys sawl ysgol gyfun ac academi, perfformiodd y disgyblion gyda hyder, brwdfrydedd a phroffesiynoldeb, gan ennill canmoliaeth uchel gan y beirniaid a chyd-gystadleuwyr fel ei gilydd.

Dywedodd Pennaeth y Celfyddydau Perfformio, Henley Jenkins: "Mae'r plant wedi bod yn ymarfer gyda'i gilydd ers misoedd, gan ddangos ymroddiad anhygoel a gwaith tîm wrth baratoi ar gyfer y rowndiau terfynol. Da iawn i'r holl blant a gymerodd ran, ac i'r holl rieni a'n cefnogodd – rydych chi wedi ein gwneud ni i gyd mor falch!

"Rydym wedi adeiladu enw da iawn am gerddoriaeth a'r celfyddydau mynegiannol, gyda'r grŵp 'Newton Singer Songwriters' yn ffurfio yn 2022. Ers hynny, mae'r disgyblion wedi cymryd rhan mewn nifer o berfformiadau, sesiynau cyfansoddi caneuon, a chyfleoedd recordio, gan arddangos ymrwymiad yr ysgol i greadigrwydd a chwricwlwm y celfyddydau mynegiannol."  

Disgrifiodd y disgyblion y daith fel profiad bythgofiadwy:

Meddai Ottilie Cosson: "Roedd cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon am yr eildro yn brofiad anhygoel. Roeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen at hyn gymaint ers i ni gael ein dewis i gystadlu yn y rownd derfynol." 

Ychwanegodd Summer Doughty: "Hwn oedd yr amser mwyaf hudolus wrth i bawb rannu eu caneuon gwych ar y llwyfan. Roedden ni wedi bod yn ymarfer ers amser maith cyn y rownd derfynol, a gwnaethon ni fwynhau'n fawr."

Meddai Leo Pickard: "Dyma’r profiad gorau erioed, gan fod yr holl grwpiau yn gantorion ardderchog, ac roedd yn wych bod yn rhan ohono. Roedd bod yr unig ysgol a ddewiswyd i gystadlu am yr eildro yn anghredadwy!"

 Ychwanegodd Seren Devlin-Davies: "Gwnes i fwynhau'r chwerthin a gawsom ar ddiwrnod y perfformiad. Gwnaethon ni weithio gyda'n gilydd fel tîm a chael hwyl, a dyna beth sy'n wirioneddol bwysig. Roedd yn brofiad gwych a byddwn wrth fy modd yn ei wneud eto!" 

"Mae hwn yn gyflawniad gwych i Ysgol Gynradd y Drenewydd yn Notais ac yn enghraifft wych o sut y gall cwricwlwm y celfyddydau mynegiannol effeithio'n gadarnhaol ar ein disgyblion a'n staff. "Mae bod yr unig ysgol yn y DU i gael gwahodd i berfformio am flynyddoedd yn olynol yn dweud cyfrolau, ac yn dyst i greadigrwydd, gwaith tîm ac angerdd staff a disgyblion."
Disgyblion Ysgol Gynradd Newton yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Ysgrifennu Caneuon Genedlaethol Ysgolion y DU.

Chwilio A i Y

Back to top