Diweddariad ar adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, yr Amgylchedd a Thai am ei ymdrechion i adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr. 

Clywodd y pwyllgor sut y cafodd Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ei gwblhau yn 2021 fel strategaeth 10 mlynedd i ddatblygu canol tref mwy bywiog, deniadol a chynaliadwy yn seiliedig ar gyfuniad o gyfleoedd tai, gwaith, addysg, diwylliant, hamdden a manwerthu. 

Mae nodau'r uwchgynllun yn cynnwys cynyddu nifer y bobl sy'n byw yng nghanol y dref, gwella mannau cyhoeddus a'r ardal gyhoeddus, cefnogi busnesau a gweithgarwch economaidd, gwella cysylltiadau cerdded, beicio a thrafnidiaeth, a diogelu a dathlu treftadaeth a hunaniaeth y dref. 

Mae nifer o ddatblygiadau allweddol naill ai wedi'u cyflawni neu yn y broses o gael eu cyflawni yng nghanol y dref. Mae'r rhain yn cynnwys campws newydd sbon gwerth £60m ar gyfer Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn Cheapside, y disgwylir iddo agor yn gynnar y flwyddyn nesaf, a gwaith ailddatblygu gwerth £1.7 miliwn ar Dŷ Wyndham gan Cymoedd i’r Arfordir gyda gofod ar y llawr gwaelod ar gyfer siopau a chiosgau ychwanegol.

Mae Pentref Llesiant Sunnyside, prosiect gwerth £20m, hefyd bron iawn â’i  gwblhau, ac mae prynu safle Canolfan Siopa 2.27 erw y Rhiw gan y Cyngor wedi galluogi'r awdurdod i edrych o'r newydd ar gynlluniau adfywio’r dref.

Mae prosiectau eraill yn cynnwys llwybr treftadaeth newydd ar gyfer y dref a lansiwyd mewn cydweithrediad â Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, gwaith i gefnogi a datblygu economi nos canol y dref a gwneud yn fawr o enw cynyddol dda Pen-y-bont ar Ogwr am fwytai o safon uchel, a gwell seilwaith gwyrdd gyda phlanhigion, llwyni a choed newydd yn ogystal ag uwchraddio gwahanol leoliadau ledled canol y dref

Clywodd yr aelodau hefyd sut mae gorchymyn rheoleiddio traffig arbrofol 18 mis wedi bod ar waith ers mis Ebrill ac yn parhau tra bod arolygon traffig canol y dref yn cael eu cynnal, a sut mae mwy o waith yn digwydd ar opsiynau ar gyfer ailddatblygu Gorsaf Reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr a chreu mynedfa newydd a chysylltiadau gwell i ganol y dref.  

"Mae Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud cynnydd da gyda nifer o brosiectau mawr naill ai'n mynd rhagddynt neu ar fin cael eu cwblhau. "Mae'r uwchgynllun yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer adfywio canol y dref yn llwyddiannus, ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau newydd, cynaliadwy a fydd o fudd i fusnesau a thrigolion fel ei gilydd wrth sicrhau dyfodol hirdymor i'r dref."

Chwilio A i Y

Back to top