O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Diweddariad i breswylwyr ynghylch newidiadau i gyflenwad bagiau sbwriel glas
Dydd Gwener 07 Mawrth 2025
Yn dilyn y cyfarfod cyllideb ar 26 Chwefror, mae’r cyngor wedi gwneud y penderfyniad anfoddog i roi’r gorau i gyflenwi pob aelwyd gyda bagiau gwastraff glas fel rhan o’i fesurau i wneud toriadau cyllideb hanfodol, gan arbed £220k y flwyddyn.
O Ebrill 2025, bydd rhaid i aelwydydd ddarparu bagiau sbwriel du eu hunain, gan sicrhau nad yw bagiau yn fwy na 60 litr. Gall preswylwyr barhau i ddefnyddio gweddill eu bagiau sbwriel glas ar gyfer casgliadau sbwriel hyd nes bydd y rhain wedi gorffen.
Bydd y mwyafrif o drigolion eisoes wedi derbyn eu cyflenwad olaf o fagiau gwastraff glas, gyda gweddill y cartrefi yn eu derbyn fis Mawrth.
Sicrheir preswylwyr y bydd casgliadau bob pythefnos yn parhau fel arfer, gyda'r terfyn o ddau fag bob pythefnos ar gyfer aelwydydd yn parhau yn ei le.
Ni fydd bagiau bwyd a chynwysyddion ailgylchu eraill yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn a byddant yn parhau i gael eu danfon a’u dosbarthu ar gais.
Mae'r penderfyniad yn dod â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unol ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru sydd wedi dod â chyflenwi bagiau sbwriel i ben.
“Tra ein bod yn gwneud y penderfyniad anfoddog o ddod â’r cyflenwad o fagiau sbwriel i ben, bydd y newid hwn ond yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i leihau gwastraff yn y fwrdeistref sirol. “Gallai bron i hanner yr hyn sy’n cael ei daflu ar hyn o bryd mewn bagiau sbwriel glas ar draws y fwrdeistref sirol gael ei ailgylchu, ac rwy’n annog cartrefi i ailgylchu cymaint â phosibl er mwyn helpu i leihau’r angen am fagiau sbwriel a pharhau i’n cefnogi i aros ar y brig yng Nghymru pan ddaw i ailgylchu.”
Tra bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei enwi fel yr awdurdod lleol gorau yng Nghymru am ailgylchu, mae arolwg diweddar gan Wrap Cymru wedi darganfod bod modd ailgylchu 47 y cant o wastraff yn eich sachau gwastraff glas presennol.
Peidiwch â rhoi’r canlynol yn eich sachau gwastraff:
- gwastraff gardd
- eitemau DIY fel paent, cerrig, rwbel neu wastraff adeiladwyr
- gwastraff clinigol fel gwastraff meddygol neu nodwyddau
- anifeiliaid marw
- olew coginio neu injan
- eitemau trydanol
- gwastraff masnachol
- gwastraff peryglus fel toddyddion a chemegau
- batris
- tiwbiau fflworoleuol neu fylbiau golau yn cynnwys mercwri
- gwenwyn neu drapiau
- asbestos
Lapiwch wrthrychau miniog, fel gwydr wedi torri a Pyrex. Os nad yw’r rhain wedi eu lapio’n ofalus, gallant frifo’r casglwr gwastraff.

Cwestiynau Cyffredin
Yn dilyn cyfarfod ynghylch y gyllideb ar 26 Chwefror, penderfynodd y cyngor, yn anfoddog, i stopio cyflenwi bagiau gwastraff glas i bob cartref, fel rhan o’i fesurau i wneud gostyngiadau hanfodol yn y gyllideb, gan arbed £220K yn flynyddol, rydym wedi gweithredu penderfyniad a wnaethpwyd gan sawl awdurdod lleol arall yng Nghymru trwy fynd yn ôl at y cartref yn darparu bagiau gwastraff du.
Byddwn. Does dim gwahaniaeth i’r ddarpariaeth bagiau bwyd a’r blychau ailgylchu eraill.
Gallwch barhau i archebu blychau ailgylchu drwy’r porth ailgylchu a gwastraff ar-lein:
Gellir prynu bagiau gwastraff untro yn y mwyafrif o archfarchnadoedd a siopau nwyddau.
Mae modd rhoi dau fag gwastraff maint arferol, gyda lle i hyd at 60 litr, allan i’w casglu.
Cewch ddefnyddio bagiau gwastraff du, neu unrhyw liw arall.
Mae’r mwyafrif o archfarchnadoedd yn nodi maint y litrau yn glir ar eu pecynnau.
Nodwch na allem gasglu gwastraff sydd wedi cael ei roi mewn bagiau rhy fawr neu fagiau biniau ag olwynion.
Gellir parhau i ddefnyddio’r bagiau gwastraff glas ar gyfer casgliadau gwastraff nes iddynt orffen.
Bydd cartrefi sydd i fod i dderbyn eu cyflenwad o fagiau gwastraff glas ym mis Mawrth 2025 yn dal i dderbyn eu cyflenwad terfynol.
Gallwch wneud cais i roi mwy o sachau allan pob pythefnos.
Er enghraifft, gallai cartref ar gyfer wyth o bobl gyda thân glo sy’n cynhyrchu llwch fel y brif ffynhonnell o wres gael tri bag sbwriel ychwanegol.
Fodd bynnag, mae’r cyfyngiad i ddau fag yn bosib ar gyfer teulu o bump ar gyfartaledd.
Amgylchiadau’r cartref | Y nifer o sachau ychwanegol y gellir gwneud cais amdanynt |
---|---|
Pump neu lai o breswylwyr | 0 |
Chwech neu saith o breswylwyr | 1 |
Wyth neu fwy o breswylwyr | 2 |
Cartrefi gyda thân glo sy’n cynhyrchu llwch fel y brif ffynhonnell o wres | 1 |
Gallwch ofyn am ragor o fagiau drwy’r porth ailgylchu a gwastraff:
Cewch wybodaeth am yr hyn y gallwch, ac na allwch ei ailgylchu, ar ein tudalennau ailgylchu.
Mae casgliadau gwastraff gardd ar gael pob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd.
Cewch fwy o wybodaeth neu gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd ar-lein.
Efallai eich bod yn gymwys am gasgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP) os oes gan eich cartref unrhyw un o’r canlynol i gael gwared ohonynt:
- Cewynnau
- Bagiau colostomi
- Padiau anymataliaeth oedolion
Mae’r casgliadau’n digwydd pob pythefnos, ar yr un diwrnod â’ch casgliad gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Cewch fwy o wybodaeth neu gofrestru ar gyfer casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol ar-lein