Dros £6,000 i'w dalu gan dwyllwr a gafwyd yn euog o gamddefnyddio bathodyn parcio glas person anabl

Dydd Mercher 04 Mehefin 2025

Mae ymchwiliad diwyd a gynhaliwyd gan dîm twyll Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi arwain at gollfarn i ddyn o Abertawe sy'n gorfod talu dros £6,000 am ddefnyddio bathodyn parcio glas person anabl yng nghanol tref Porthcawl yn dwyllodrus.

Defnyddiodd Liam Pritchard o Bontardawe, Abertawe, y bathodyn parcio ym Maes Parcio John Street, Porthcawl, yn hytrach na thalu am docyn parcio.  Datgelodd gwiriadau diogelwch a gynhaliwyd gan dîm parcio'r cyngor fod y bathodyn wedi'i gofnodi fel bathodyn a oedd wedi cael ei golli, ac wedyn wedi'i ganslo, ac nad deiliad y bathodyn oedd y person a oedd yn camddefnyddio'r bathodyn.

Ymddangosodd Mr Pritchard gerbron Ynadon Abertawe ar 27 Mai 2025 lle plediodd yn euog i fod â bathodyn glas person anabl yn ei feddiant at ddefnydd twyllodrus, yn unol â chyhuddiad o dan Ddeddf Twyll 2006. 

Yn ôl yr ynadon, roedd hi’n drueni bod Mr Pritchard wedi ymddwyn mewn modd a arweiniodd at golli ei enw da, ac fe osodon nhw’r ddedfryd ganlynol:

Dirwy - £816

Gordal dioddefwr - £326

Costau - £5,080

Mae'r ffigurau uchod yn rhoi cyfanswm o £6,222 sydd i gael ei dalu gan Mr Pritchard.

"Mae'r Cynllun Bathodyn Glas wedi'i gynllunio i ganiatáu i drigolion anabl barcio'n agosach at eu cyrchfannau, a thrwy hynny gynnal cynhwysiant ac annibyniaeth. Yn anochel, mae camddefnyddio bathodynnau glas yn golygu y gall pobl ag anableddau gael eu hatal rhag parcio mewn man hygyrch. "Mae ein timau ymchwilio i barcio a thwyllo yn gweithio ar y cyd i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn ac i gynnal gwiriadau dwys mewn ymgais i atal camddefnyddio bathodynnau glas ledled y fwrdeistref sirol. "Rydym yn gobeithio y bydd yr achos hwn yn dangos na fydd y defnydd twyllodrus o fathodynnau glas yn cael ei oddef, ac mae ein timau wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r broblem hon.   Rydym yn gweithio i gefnogi'r trigolion hynny sydd angen bathodynnau glas i fyw eu bywydau heb fod parcio ceir yn rhwystr."

Os ydych chi'n amau bod bathodyn glas yn cael ei gamddefnyddio, mae'r cyngor yn eich annog i roi gwybod amdano - Adrodd twyll 

Dros £6,000 i'w dalu gan dwyllwr a gafwyd yn euog o gamddefnyddio bathodyn parcio glas person anabl

Chwilio A i Y

Back to top