Dull Pen-y-bont ar Ogwr o gysylltu diwylliant, hamdden a gofal cymdeithasol yn cael ei gydnabod fel 'ymarfer gwerth ei rannu'

Dydd Gwener 30 Hydref 2026

Mae dull Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o gysylltu diwylliant, hamdden a lles cymunedol â gofal cymdeithasol wedi cael ei gydnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru fel 'ymarfer gwerth ei rannu'.

Yn ystod gwiriad sicrwydd diweddar o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion, tynnodd arolygwyr sylw at effaith gadarnhaol dull y Cyngor o ddod â gwasanaethau gofal cymdeithasol statudol ynghyd â chyfleoedd ataliol a chymunedol a ddarperir trwy bartneriaid allweddol, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Halo Leisure. 

Mae'r dull yn helpu pobl i gael mynediad i gymorth yn gynt, gan eu galluogi i aros yn weithgar, yn gysylltiedig ac yn annibynnol yn eu cymunedau. Trwy ddarparu ystod ehangach o gymorth a chyfleoedd cymunedol, mae’r dull hefyd yn gallu helpu i atal neu oedi'r angen am gymorth statudol mwy dwys.

Mae'r Cyngor yn gweithio ar y cyd â Halo Leisure, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, partneriaid iechyd, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i ddarparu ystod o raglenni ataliol yn seiliedig ar anghenion lleol. Mae'r rhain yn cynnwys Rhaglen Seibiant Gofalwyr Halo Leisure, Teimlo'n Dda am Oes a Gwersi Nofio sy’n Ystyriol o Awtistiaeth, ynghyd â chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau llyfrgelloedd, treftadaeth, celfyddydau a diwylliannol wedi’u darparu gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Mae partneriaid hefyd yn gweithio i gael gwared ar rwystrau sy’n gallu atal pobl rhag cymryd rhan. Mae hyn yn cynnwys gofal seibiant i ofalwyr, trafnidiaeth hygyrch, cyfleoedd diwylliannol am ddim a chost isel, tocynnau cydymaith neu ofalwr am ddim trwy gynllun Hynt, lleoliadau sy’n hygyrch yn gorfforol, a rhaglenni cynhwysol sy’n deall dementia.

Un enghraifft y tynnwyd sylw ati gan AGC yw Teimlo’n Dda am Oes, sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, unigrwydd ac iselder, ynghyd â'u gofalwyr. Mae'r rhaglen yn dwyn ynghyd weithgarwch corfforol, gan gynnwys nofio gyda Halo Leisure, gyda chyfleoedd ar gyfer ymgysylltu cymdeithasol megis gweithgareddau crefft, hel atgofion a cherddoriaeth gyda thimau llyfrgelloedd.

Mae mwy na 400 o bobl wedi cael eu cefnogi trwy'r rhaglen, gyda chyfranogwyr yn dweud eu bod yn fwy actif, gyda gwell hyder a chysylltiadau cymdeithasol cryfach, yn ogystal â theimlo’n llai ynysig. 

"Rydyn ni eisiau i bobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr allu byw'n dda ac aros yn annibynnol cyhyd â phosibl, ac mae hynny'n golygu edrych y tu hwnt i wasanaethau gofal cymdeithasol traddodiadol. Trwy weithio'n agos gyda'n partneriaid ar draws diwylliant a hamdden, rydyn ni’n gallu cysylltu pobl â chyfleoedd yn eu cymunedau sy'n cefnogi eu lles ac yn eu helpu i gadw'n actif ac yn gysylltiedig. Mae'n wych gweld y dull hwn yn cael ei gydnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru fel ymarfer gwerth ei rannu, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu hymrwymiad parhaus i gefnogi pobl ledled y fwrdeistref sirol."
"Rydyn ni’n hynod falch o weld gwaith ataliol cymunedol Halo Leisure yn cael ei gydnabod fel ymarfer cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Trwy gydweithio'n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'n partneriaid rhanbarthol, rydyn ni’n defnyddio hamdden a byw'n actif i wella lles cyffredinol a sicrhau bod preswylwyr yn derbyn cymorth cynnar ac ystyrlon yn eu cymunedau."
"Mae ein llyfrgelloedd, ein lleoliadau diwylliannol a’n rhaglenni yn darparu mannau croesawgar lle mae pobl yn gallu cymryd rhan, magu hyder a datblygu cysylltiadau ystyrlon yn eu cymunedau. Mae gweithio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Halo Leisure a phartneriaid eraill yn ein galluogi i ddod â'n gwahanol gryfderau at ei gilydd a sicrhau bod diwylliant a chyfleoedd cymunedol yn rhan o ddull ehangach o atal a lles. Rydyn ni wrth ein bodd bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cydnabod y dull cydweithredol hwn fel ymarfer gwerth ei rannu ac rydyn ni’n bwriadu gwneud mwy yn y dyfodol."
"Mae Ymarfer Gwerth ei Rannu yn ymwneud â chipio'r hyn rydyn ni'n ei weld yn gweithio'n dda trwy ein harolygiadau a'i ddefnyddio i gefnogi dysgu ar draws y sector. Trwy dynnu sylw at ddulliau effeithiol ac arloesol, rydyn ni’n gobeithio annog rhannu syniadau a helpu awdurdodau lleol i ddysgu gan ei gilydd. Ein nod yw dathlu arferion cadarnhaol, hyrwyddo gwelliant parhaus a chefnogi canlyniadau gwell i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth ledled Cymru."
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Jane Gebbie a Scott Rolfe, Prif Weithredwr Halo Leisure
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Jane Gebbie a Scott Rolfe, Prif Weithredwr Halo Leisure
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Jane Gebbie a Scott Rolfe, Prif Weithredwr Halo Leisure
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Jane Gebbie a Scott Rolfe, Prif Weithredwr Halo Leisure

Chwilio A i Y

Back to top