Dweud eich dweud ar ganllawiau cynllunio newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Gwener 13 Tachwedd 2026
Mae trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar dair dogfen canllawiau cynllunio drafft newydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n cwmpasu bioamrywiaeth, seilwaith gwyrdd a safonau parcio.
Mae'r ymgynghoriadau yn rhoi cyfle i helpu i siapio sut mae datblygiadau yn y dyfodol yn cael eu cynllunio ar draws y fwrdeistref sirol.
Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn cael ei ystyried gan yr awdurdod cynllunio lleol cyn i unrhyw newidiadau gael eu gwneud i'r dogfennau canllawiau drafft. Bydd y fersiynau terfynol wedyn yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet i ofyn am eu cymeradwyaeth cyn eu cyflwyno i'r Cyngor eu mabwysiadu'n ffurfiol.
Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) yn cefnogi Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) y Cyngor, a fabwysiadwyd ym mis Mawrth 2024, sy'n nodi sut y dylai'r fwrdeistref sirol ddatblygu hyd at 2033.
Nod y CCA Safonau Parcio drafft yw cefnogi teithio llesol wrth sicrhau bod lefelau parcio priodol yn cael eu darparu ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiadau.
Mae’n cadw dull gweithredu yn ôl ardal i safonau parcio sy'n adlewyrchu lefelau gwahanol o hygyrchedd ar draws y fwrdeistref sirol. Mae hefyd yn cwmpasu gwefru cerbydau trydan, parcio i'r anabl a hygyrch, parcio beiciau a pharcio ar gyfer cerbydau dwy olwyn wedi'u pweru.
Mae rhagor o ganllawiau ar gynllun a dyluniad parcio, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cerdded, olwyno a beicio, yn ogystal â gofynion gweithredol a gwasanaethu.Mae’r CCA Bioamrywiaeth drafft yn esbonio sut y dylai cynigion datblygu amddiffyn, cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth, cyflawni budd net ar gyfer bioamrywiaeth, yn unol â gofynion y CDLlN a'r polisi cynllunio cenedlaethol.
Mae hefyd yn darparu arweiniad ar gyfer ymgeiswyr, datblygwyr a phenderfynwyr ynghylch sut y dylid mynd i'r afael â gofynion bioamrywiaeth drwy gydol cynllunio, dylunio, asesu a chyflwyno cynigion datblygu.
Yn y cyfamser, mae'r CCA Seilwaith Gwyrdd drafft yn esbonio sut y bydd cynigion datblygu yn cael eu hasesu i sicrhau bod seilwaith gwyrdd presennol yn cael ei ddiogelu a'i wella, ochr yn ochr ag unrhyw seilwaith gwyrdd newydd o ansawdd uchel sy'n cael ei ddarparu ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae'n nodi sut y dylai datblygiadau integreiddio, diogelu, gwella a chryfhau seilwaith gwyrdd i greu cymdogaethau iachach, mwy gwydn a bioamrywiol. Mae hefyd yn esbonio sut y dylid lliniaru neu ddigolledu unrhyw golledion anochel, yn unol â'r CDLlN a'r polisi cynllunio cenedlaethol.
“Mae cymryd rhan yn yr ymgynghoriadau hyn yn gyfle i helpu i ddylanwadu ar sut mae datblygiad yn y dyfodol yn cael ei gynllunio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwy’n annog y gymuned leol i ddarllen y dogfennau drafft a dweud eu dweud.”
Ewch i wefan y cyngor i ddarllen y canllawiau drafft a chymryd rhan yn yr ymgynghoriadau.
Rhaid derbyn unrhyw sylwadau erbyn 11:59pm 10 Rhagfyr 2026.