O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Dyddiad newydd ar gyfer cwblhau estyniad Ysgol Gynradd Coety
Dydd Gwener 21 Mawrth 2025
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo 1 Medi 2026 fel y dyddiad cyflawni diwygiedig ar gyfer estyniad Ysgol Gynradd Coety, fydd yn cyd-fynd gyda dechrau blwyddyn ysgol 2026-2027.
Yn dilyn proses ymgynghori, cafodd cynlluniau eu cadarnhau er mwyn cynyddu maint yr ysgol o 420 i 525 o lefydd ar gyfer disgyblion o bedair i un ar ddeg mlwydd oed, gyda rhai nodweddion o’r ehangiad i gynnwys estyniad pedwar dosbarth, cyfleusterau ychwanegol megis toiledau, ystafelloedd cotiau a gofod storio.
Mae tîm cynllunio aml-ddisgyblaethol wedi’i arwain gan Powell Dobson Architects wedi ei benodi i symud y dyluniad cysyniad yn ei flaen drwy’r camau dylunio dilynol, ac mae WSP (UK) Limited wedi ymgymryd ag asesiad trafnidiaeth yn ogystal ag ymgysylltu gyda’r ysgol er mwyn datblygu cynllun teithio i’r ysgol a fydd yn cefnogi’r broses cais cynllunio.
“Mae’n wych gweld y prosiect hwn yn symud ymlaen a chyda dyddiad cwblhau ar y gorwel ar gyfer staff, disgyblion a’u teuluoedd. “Bydd y buddsoddiad hanfodol hwn o ychydig llai na £2m yn sicrhau y gall yr ysgol ddarparu ar gyfer ei nifer cynyddol o ddysgwyr a pharhau i gynnig yr adnoddau addysgol mwyaf cyfredol, a modern er mwyn cefnogi dysgu nawr ac ymhen blynyddoedd i ddod.”