Dyluniadau ailgylchu gan fyfyrwyr ar ffyrdd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Iau 12 Tachwedd 2026
Mae dyluniadau creadigol gan ddisgyblion ysgol uwchradd yn helpu i ledaenu'r neges ailgylchu ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar ôl i waith celf buddugol gael ei ddewis i ymddangos ar fflyd newydd y cyngor o gerbydau ailgylchu a gwastraff.
Gwahoddodd y fenter, a drefnwyd gan dîm Strydoedd Glanach a Rheoli Gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ddisgyblion Blwyddyn 7 o ysgolion uwchradd ledled y fwrdeistref sirol i ddylunio gwaith celf trawiadol sy'n hyrwyddo ailgylchu a gwaredu gwastraff yn gyfrifol.
Cymerodd myfyrwyr o saith ysgol ran yn y gystadleuaeth, a chafodd y ceisiadau buddugol eu dewis o ystod eang o ddyluniadau dychmygus a lliwgar.
Cafodd y dyluniad buddugol cyffredinol ei greu gan Archie James ac Arianwen Owen o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Cyfunwyd eu gwaith celf yn un dyluniad a fydd yn ymddangos ar ddeg o gerbydau ailgylchu newydd y cyngor.
Dyfarnwyd yr ail wobr i Beth Maund o Ysgol Gyfun Porthcawl, ac enillodd Elsie Jones o Ysgol Gyfun Maesteg y trydydd safle. Bydd eu dyluniadau yn cael eu harddangos ar fflyd cerbydau'r cyngor hefyd.
Bydd cyfanswm o 15 o gerbydau, gan gynnwys cerbydau ailgylchu a chasglu gwastraff, yn cario gwaith celf a ddyluniwyd gan fyfyrwyr wrth iddynt deithio trwy gymunedau ledled y fwrdeistref sirol, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau ailgylchu lleol ac annog trigolion i ailgylchu’n fwy.
Roedd y creadigrwydd, y brwdfrydedd a'r ymwybyddiaeth amgylcheddol y dangosodd yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran wedi creu argraff fawr arnom. Trwy gynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol mewn hyrwyddo ailgylchu, rydyn ni’n gobeithio annog sgyrsiau am wastraff a chynaliadwyedd yn yr ysgol ac yn y cartref. Bydd y dyluniadau gwych hyn yn cael eu gweld gan filoedd o drigolion bob wythnos, gan helpu i ysbrydoli cymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud y defnydd gorau o'n gwasanaethau ailgylchu.
Ariannwyd y prosiect gwaith celf cerbydau drwy'r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (CEC), sy'n darparu cyllid i awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau ailgylchu a chasglu gwastraff cartrefi. Galluogodd y cyllid y cyngor i fuddsoddi mewn lapiau cerbydau sy'n arddangos dyluniadau'r myfyrwyr wrth hyrwyddo negeseuon ailgylchu allweddol.
Mae'r gystadleuaeth yn rhan o ymrwymiad ehangach y cyngor i ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau i wella ymwybyddiaeth o ailgylchu ac annog ymddygiadau mwy cynaliadwy ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.