Entrepreneuriaid jin lleol yn dathlu menter fusnes arloesol yn agor ar lan y môr Porthcawl

Dydd Mawrth 05 Awst 2025

Mae'r entrepreneuriaid lleol Chris a Glenn wedi rhoi bywyd newydd i giosg nad oedd yn cael ei feddiannu ar lan y môr Porthcawl drwy lansio 'Porthcawl Distillery', profiad jin a siop roddion unigryw gyda chefnogaeth tîm Datblygu Economaidd a Menter y cyngor. 

Mae Porthcawl Distillery yn fusnes teuluol, cwbl annibynnol, lle mae pob gwirod a grëir yn unigryw diolch i ddull cwbl unigol a swp bach.  

Gyda chymorth gan y 'Gronfa Cychwyn Busnes', menter gydweithredol gyda UK Steel Enterprise, mae'r cyngor wedi darparu cymorth ariannol hanfodol, ar ffurf 50 y cant o'r arian i dalu costau gosod siop a phrynu offer distyllu hanfodol.  

"Dyma'r union fath o fusnes arloesol yr ydym am ei weld yn ffynnu ym Mhorthcawl. Mae'r gefnogaeth y gallwn ei ddarparu i entrepreneuriaid lleol, fel Chris a Glenn, yn dangos ein hymrwymiad i feithrin entrepreneuriaeth leol, adfywio mannau cymunedol a rhoi hwb i'r economi leol."
Mae agor y drysau i'n siop anrhegion a'n profiad jin ein hunain yn teimlo'n hollol swreal. Ar ôl neilltuo'r ddwy flynedd ddiwethaf i adeiladu Porthcawl Distillery o'r gwaelod lan, wnawn ni byth anghofio’r foment hon. Mae'r gefnogaeth gan ein cymuned leol wedi bod yn anhygoel, ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i Simon a Rhys o dîm Datblygu Economaidd y cyngor, cynghorwyr lleol ac Aelodau Cabinet, ein AS lleol, a Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi ein cefnogi o'r cychwyn cyntaf. Rydyn ni wedi cael ymwelwyr yn teithio o bob cwr o Gymru a'r DU i brofi ein jin, sy'n anodd ei gredu. Mae gennym gynlluniau cyffrous ar y gweill - ac rydyn ni'n edrych ymlaen i weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig."

Mae'r Gronfa Cychwyn Busnes yn targedu microfusnesau - a ddiffinnir fel mentrau sydd â llai na deg o weithwyr a throsiant o dan £2 filiwn - gan ddarparu cymorth ariannol hyblyg i drosi breuddwydion entrepreneuraidd yn realiti.

"Mae Porthcawl Distillery yn cynrychioli mwy na busnes newydd; mae'n dyst i wydnwch ac ysbryd creadigol y dref, gan drawsnewid ciosg gwag yn hyb bywiog o grefftwaith lleol a photensial twristiaeth."
Glenn, Chris a'u teuluoedd gyda Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David a'r Aelod Cabinet, y Cynghorydd Neelo Farr yn agoriad swyddogol eu safle.

Chwilio A i Y

Back to top