Casgliadau gwyliau banc - Gwybodaeth a chyngor ynghylch ailgylchu a chasglu gwastraff yn ystod gwyliau banc.
Estyn yn canmol gwasanaethau addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu hymrwymiad i blant a phobl ifanc
Dydd Iau 21 Mai 2026
Mae gwasanaethau addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu canmol gan Estyn am ddarparu canlyniadau cryf i blant a phobl ifanc ar draws y fwrdeistref sirol.
Yn dilyn arolygiad diweddar o wasanaethau addysg llywodraeth leol, tynnodd arolygwyr sylw at drefniadau diogelu effeithiol y cyngor, cymorth cynhwysol i ddysgwyr a gwaith partneriaeth cryf rhwng ysgolion, gwasanaethau'r Cyngor a sefydliadau partner.
Mae'r adroddiad yn cydnabod dull clir a chydlynol y Cyngor o wella ysgolion, ynghyd â'r diwylliant "Tîm Pen-y-bont ar Ogwr" cydweithredol sy'n cefnogi dysgwyr ar draws lleoliadau addysg.
Fe wnaeth arolygwyr ganmol y berthynas waith gadarnhaol rhwng yr awdurdod lleol, ysgolion a'r Uned Cyfeirio Disgyblion, gan nodi bod y partneriaethau wedi helpu ysgolion i wneud gwelliannau amserol a chyflawni canlyniadau arolygu cadarnhaol.
Tynnodd Estyn sylw hefyd at ystod eang o ddarpariaeth arbenigol y Cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, gan gydnabod y cymorth cryf sydd ar gael i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a dysgwyr agored i niwed eraill.
Roedd canmoliaeth hefyd i’r cymorth ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, gydag arolygwyr yn cydnabod y dull amlasiantaethol agos sy'n helpu i nodi anghenion plant yn gynnar ac yn sicrhau bod teuluoedd yn derbyn y cymorth cywir ar yr adeg gywir.
Yn ogystal fe wnaeth yr adroddiad gydnabod buddsoddiad parhaus y Cyngor mewn ysgolion ac amgylcheddau dysgu trwy ei raglen moderneiddio ysgolion a chynllunio strategol hirdymor.
"Mae hwn yn adroddiad eithriadol sy'n adlewyrchu'r gwaith caled, y proffesiynoldeb a'r ymrwymiad sydd i’w gweld ar draws gwasanaethau addysg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Hoffwn ddiolch i'n dysgwyr, ein hathrawon, ein staff ysgol a swyddogion y Cyngor sydd i gyd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn. "Er gwaethaf nifer uchel o arolygiadau, mae gan ein hysgolion y nifer lleiaf o gategorïau dilynol ar ôl arolygiad yng Nghymru ac mae hyn yn dyst i gryfder ein partneriaethau a'n huchelgais ar y cyd i roi'r cyfleoedd gorau posibl i bob dysgwr lwyddo. "Rydym yr un mor ymrwymedig i adeiladu ar y gwaith hwn a mynd i'r afael ag unrhyw feysydd i'w gwella fel ein bod yn parhau i ddarparu'r canlyniadau gorau posibl i ddysgwyr ledled y fwrdeistref sirol."