Ffair dymhorol newydd ar ei ffordd i Borthcawl
Dydd Llun 09 Mawrth 2026
Mae ffair dymhorol sy'n cynnwys reidiau i deuluoedd, olwyn fawr, stondinau bwyd a mwy ar ei ffordd i Salt Lake fel rhan o gynlluniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer adfywio ardal glannau Porthcawl a chreu mwy o gyfleoedd ar gyfer cynnal digwyddiadau diwylliannol a hamdden.
Bydd y ffair yn cael ei gosod mewn pryd ar gyfer y Pasg a bydd yn aros yno trwy gydol tymor yr haf. Am gyfnod byr, bydd yn rhannu safle Salt Lake gyda'r syrcas gyfoes NoFit State, a fydd hefyd yn bresennol rhwng 11 a 19 Ebrill i gynnig cyfuniad o gerddoriaeth fyw, dawns, ffilm a sgiliau syrcas traddodiadol.
Wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch ac yn gynhwysol, bydd y ffair yn cael ei chynnal gan Studt's Events ac yn cael ei staffio gan stiwardiaid proffesiynol. Gyda digon o leoedd parcio ar y safle, bydd ffens ddiogel yn helpu i sicrhau bod mynediad yn cael ei reoli'n ofalus, a bydd trefniadau ar waith i helpu i gadw'r ffair yn lân ac yn ddi-sbwriel.
"Mae'r cyfle gwych hwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad tuag at ddarparu atyniadau hamdden a diwylliannol o ansawdd uchel i Borthcawl y gall trigolion a thwristiaid eu mwynhau. "Rydyn ni eisiau cynnig gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd sy'n ychwanegu at yr hyn mae Porthcawl eisoes yn ei gynnig wrth gefnogi busnesau lleol hefyd trwy ddod â mwy o bobl i'r dref a'r fwrdeistref sirol. "Rwy'n falch y bydd y ffair yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob ymwelydd, ac mae'n wych gweld sut mae ein cynlluniau ar gyfer Porthcawl yn dechrau dod at ei gilydd fel rhan o'r rhaglen adfywio ehangach."
"Mae gwaith adfywio’r glannau ym Mhorthcawl yn gyfle cyffrous i'r ardal, ac mae'n wych gweld momentwm yn cynyddu gyda'r ffair dymhorol yn ychwanegu at apêl y dref dros gyfnod y Pasg. "Drwy ein buddsoddiad parhaus mewn adfywio ledled Cymru, rydyn ni am helpu trefi fel Porthcawl i adeiladu ar eu cryfderau unigryw, tyfu eu heconomïau lleol, darparu cartrefi newydd, a chynnig profiadau hamdden a diwylliannol o ansawdd uchel i drigolion ac ymwelwyr."
"Fel busnes teuluol sydd â threftadaeth hir yn y diwydiant ffeiriau a digwyddiadau, mae gennyn ni brofiad helaeth o ddarparu atyniadau cymunedol bach a digwyddiadau ar raddfa fwy. "Rydyn ni’n wirioneddol falch o ddod â ffair i deuluoedd i Borthcawl ac yn edrych ymlaen at chwarae rhan gadarnhaol yn arlwy tymhorol y dref i drigolion ac ymwelwyr."
Bydd mwy o fanylion am y ffair dymhorol, gan gynnwys dyddiadau ac oriau agor wedi'u cadarnhau, yn cael eu cyhoeddi yn agosach at wyliau’r Pasg 2026.