Ffair Swyddi Maesteg yn dychwelyd am flwyddyn lwyddiannus arall

Dydd Llun 16 Mawrth 2026

Dychwelodd Ffair Swyddi Maesteg i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y mis diwethaf ar gyfer digwyddiad llwyddiannus arall, a drefnwyd gan dîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.

Cynhaliwyd y ffair swyddi yn Neuadd y Dref Maesteg ddydd Mercher 25 Chwefror rhwng 10am ac 1pm, ac roedd tua 300 o drigolion yn bresennol yn y digwyddiad. Agorwyd y digwyddiad gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie ac roedd y Maer, y Cynghorydd Huw David hefyd yn bresennol. Roedd 35 o stondinau, a oedd yn cynnwys cyflogwyr ac asiantaethau cymorth o bob rhan o'r fwrdeistref sirol. Roedd timau o Wasanaeth Ieuenctid, Menter, Prentisiaethau ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn y digwyddiad i gynnig cefnogaeth. 

Bu modd i’r rhai a oedd yn bresennol siarad â chyflogwyr a thrafod swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd neu a fydd ar gael cyn hir, a chael llawer o wybodaeth a chefnogaeth.

"Mae Ffair Swyddi Maesteg wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae'n dangos ein hymroddiad a'n cefnogaeth wrth helpu trigolion i newid gyrfaoedd, neu fynd yn ôl i waith. Mae ein ffeiriau swyddi yn gyfle perffaith i drigolion siarad â chyflogwyr yn uniongyrchol, a chael mewnwelediad i rôl benodol, ac rwy'n falch iawn bod y digwyddiad hwn wedi gallu cynnig hynny ar raddfa mor fawr. Diolch yn fawr iawn i dîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ac i'r holl gyflogwyr a oedd yn bresennol yn y digwyddiad!"

Os gwnaethoch golli'r ffair swyddi, mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr wrth law i ddarparu cymorth i drigolion ar eu taith gyflogaeth.

Am ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu â'r tîm dros y ffôn ar 01656 813317, neu drwy e-bost employability@bridgend.gov.uk neu llenwch ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein.

Gallwch hefyd weld y dudalen Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar ein gwefan.

Mynychwyr a chyflogwyr yn Ffair Swyddi Maesteg yn Neuadd y Dref Maesteg

Chwilio A i Y

Back to top