Galas nofio ysgolion yn gwneud sblash mawr ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Gwener 04 Gorffennaf 2025
Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth sawl ysgol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dreialu ailgyflwyno'r galas nofio ysgol a oedd unwaith yn boblogaidd ac mae hyn wedi cael ei ddisgrifio’n llwyddiant ysgubol.
Cynhaliwyd y digwyddiad nofio tri diwrnod ym Mhwll Nofio Halo yn Ynysawdre, o ddydd Mawrth i ddydd Iau, 17-19 Mehefin, ar gyfer disgyblion ysgol gynradd rhwng 7 ac 11 oed.
Diben y gala, gyda chymorth gwasanaeth Atal a Lles y cyngor, Halo Leisure ac Asiantaeth Addysgu Apollo, oedd rhoi cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn digwyddiad nofio lle gallen nhw gynrychioli eu hysgol, mwynhau buddion nofio a rhyngweithio â disgyblion o ysgolion lleol eraill.
"Rhoddodd y digwyddiad hwn brofiad cystadleuol ystyrlon i'n myfyrwyr wrth gynnal gwerthoedd chwaraeon da. I lawer o'r nofwyr ifanc hyn, dyma oedd eu blas cyntaf ar gystadlu. Rydyn ni’n credu bod nofio, yn ogystal â bod yn sgil bywyd hanfodol, yn gyfle amhrisiadwy ar gyfer ffitrwydd corfforol a datblygiad personol. "Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddweud diolch i bawb a chwaraeodd ran ganolog wrth drefnu'r digwyddiad hwn. Gyda'n gilydd, rydyn ni’n meithrin cariad at nofio ymhlith ein plant, gan sicrhau eu bod yn cael y cyfle i ffynnu mewn amgylchedd cefnogol a chystadleuol."
Fe wnaeth cyfanswm o 450 o ddisgyblion blwyddyn tri i chwech o bob rhan o'r fwrdeistref sirol gymryd rhan dros dridiau. Gyda diddordeb enfawr gan ysgolion cynradd, mae disgwyl iddo ddod yn ddigwyddiad parhaol ym mhob ysgol gynradd ledled y fwrdeistref sirol yn 2026.
"Mae'n wych clywed bod y gala nofio yn llwyddiant ysgubol, gyda chynifer o blant yn cael y cyfle i gymryd rhan dros y tridiau. Mae cynrychioli eu hysgol a chystadlu yn bethau gwych. "Mae nofio yn sgil bywyd mor hanfodol i'r bobl ifanc hyn, yn enwedig wrth fyw mewn bwrdeistref sirol gyda chynifer o gyrchfannau arfordirol hardd ar ein stepen drws a chlybiau dyfrol ag enw da ar gael. "Mae ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'u hathrawon unwaith eto wedi dangos eu hawydd a'u brwdfrydedd i roi cyfleoedd i'r plant arddangos eu sgiliau. Mae'n wych dysgu y bydd yr adborth a roddwyd gan bawb a gymerodd ran yn datblygu'r digwyddiad hwn ymhellach yn y dyfodol, gan ei wneud yn fwy ac yn well. Llongyfarchiadau a diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran."
Gyda chymaint o gyffro ynglŷn â’r digwyddiad, gobeithio y bydd clybiau dŵr lleol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi gweld cynnydd mewn ymholiadau am aelodaeth, ar ôl ysbrydoli cyfranogiad parhaus gan bobl ifanc mewn chwaraeon dyfrol yn yr ardal.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen 'dysgu nofio' i blant a phobl ifanc, ac am ragor o wybodaeth am glybiau dyfrol lleol, ewch i: