Gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn rhannu eiliadau 'arwyddocaol' yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth
Dydd Mawrth 19 Mai 2026
Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, siarad am eu diwrnod, gofyn am wylio ffilm; mae'r rhain yn eiliadau y gallai llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth, maen nhw’n symbol o un peth – datblygiad.
Mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Gallai hyn gynnwys ymddygiad fel gorbryder, cau eu hunain yn emosiynol, ymatebion dwys neu anhawster o ran dilyn rheolau.
Mae arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Maethu Cymru wedi canfod bod tua 80 y cant o'r gofalwyr a holwyd wedi cefnogi plant sy'n dangos ymddygiad fel hyn. Er bod yr heriau hyn yn gallu bod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd hefyd eu bod nhw wedi sylwi ar ddatblygiad ystyrlon o fewn y chwe mis cyntaf.
Rhannodd gofalwyr maeth fod yr eiliadau arwyddocaol hyn yn aml yn digwydd o gwmpas eiliadau bach o gysylltiad, ond maen nhw'n cynrychioli mwy na hynny: i blant mewn gofal, mae'n golygu eu bod nhw wedi gwneud cynnydd, maen nhw wedi dechrau teimlo'n ddiogel, maen nhw wedi dechrau gwella, teimlo eu bod nhw’n cael eu caru a theimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi ar ôl trawma yn ystod plentyndod.
Ar ôl profiad, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd bron pob gofalwr (93 y cant) eu bod nhw bellach yn hyderus wrth ymateb i ymddygiad sy'n gysylltiedig â thrawma.
Cafodd y canfyddiadau eu rhyddhau yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch flynyddol fwyaf y DU i godi ymwybyddiaeth o faethu, sy'n cael ei chynnal bob mis Mai. Mae’r thema eleni, ‘Dyma yw Maethu’, yn taflu goleuni ar brofiadau gwirioneddol gofalwyr maeth a'r rôl hanfodol maen nhw’n ei chwarae wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel.
"Roedd y wên gyntaf honno yn golygu popeth. Roedd y neidio a'r gwingo yn lleihau pan oedd drws/gât babi yn cau, neu pan oedd y ci yn cyfarth. Pan oedd yn gorwedd yn ei fasged Moses am 10 munud cyfan heb grio. Roedd y pethau hyn, er eu bod nhw’n ymddangos yn fach, yn enfawr i'r babi ac fesul tipyn, o ddydd i ddydd, rydyn ni wedi gwneud cynnydd enfawr. Bob dydd rydyn ni'n dysgu rhywbeth newydd. Mae pob plentyn yn wahanol a heb gefnogaeth ein gweithwyr cymdeithasol a'n cyd-ofalwyr, bydden ni’n teimlo ar goll. Mae’r sesiynau cymorth dros goffi wedi bod yn help mawr i ni ac o'r cyfarfod cyntaf, rydyn ni wedi teimlo'n rhan o dîm – y tîm gorau. Mae ein cymuned o ofalwyr maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn wych."
"Mae'r eiliadau arwyddocaol hyn yn tynnu sylw at ymroddiad anhygoel ein gofalwyr maeth. Mae eu hamynedd a'u tosturi yn rhoi sylfaen i blant wella o drawma a ffynnu mewn amgylchedd diogel. Rydyn ni’n hynod falch o'n gofalwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth sy'n newid bywydau i gysylltu â ni."
I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ewch i: penybont.maethucymru.llyw.cymru/
Gallwch hefyd gwrdd â'ch tîm Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr lleol yn y lleoliadau canlynol:
- Canolfan Arddio'r Pîl – Dydd Iau 28 Mai, 12-3pm
- Ysbyty Tywysoges Cymru – Dydd Iau 4 Mehefin, 9am-1pm
- Canolfan Arddio'r Pîl – Dydd Iau 8 Mehefin, 10am-12pm