Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Gofod Dros Dro yn agor ei ddrysau ym Marchnad Maesteg
Dydd Mercher 14 Mai 2025
Mae gofod dros dro newydd sbon wedi agor yn swyddogol ym Marchnad Maesteg, fel rhan o gyfle creadigol gan Dîm Datblygu Economaidd a Menter Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y gofod dros dro yn Uned 14 Marchnad Maesteg, o'r enw "For a Limited Time Only...?" yn rhoi cyfle unigryw i fusnesau ac unigolion roi eu syniadau busnes ar brawf mewn lleoliad blaenllaw, risg isel heb unrhyw gost iddynt.
Pink Freak Boutique, busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yw'r busnes cyntaf i fanteisio ar y gofod dros dro i arddangos ei gynhyrchion. Mae'r bwtîc yn darparu offer colur ac ategolion amgen a bydd yn yr uned tan ddydd Sadwrn 31 Mai.
Mae’r cyfle i weithredu yn y gofod dros dro hwn wedi rhoi hwb enfawr i'm busnes. Dw i wedi cael cynifer o sylwadau hyfryd gan gwsmeriaid ac mae’r cyfle i redeg lle ffisegol trwy'r fenter hon i gyrraedd mwy o bobl yn wych. Mae'r cymorth dw i wedi'i gael gan y cyngor wedi bod yn anhygoel a byddwn yn annog unrhyw bobl greadigol i gofrestru ar gyfer y gofod.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai, "Dw i’n falch iawn o weld y gofod dros dro hwn yn agor ym Marchnad Maesteg. Mae hyn yn gyfle gwych i fusnesau ac unigolion roi cynnig ar eu syniadau a byddan nhw’n cael eu cefnogi'n llawn gan Dîm Datblygu Economaidd a Menter y cyngor. Dw i'n edrych ymlaen at weld yr holl fusnesau gwahanol fydd yn gweithredu yn y gofod hwn dros y misoedd nesaf."
Bydd yr uned dros dro yn rhedeg am gyfnod o chwe mis, gyda phob busnes a fydd yn rhedeg y gofod dros dro yn dod â rhywbeth newydd a chyffrous i gymuned Maesteg.
I ddarllen mwy am y masnachwyr sydd ar ddod, ewch i dudalen swyddogol yr uned dros dro ar ein gwefan.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.