Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi a Seremoni Rhoi Cenhinen

Dydd Gwener 21 Chwefror 2025

Bydd Bataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig yn ymuno â Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi a Seremoni Rhoi Cenhinen ar ddydd Sadwrn 1 Mawrth 2025, yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â’r Gwarchodlu Cymreig, yn dechrau yn y Ganolfan Fowlio, Stryd yr Angel, CF31 4AH am 10.20am, gan ddod i ben gyda seremoni draddodiadol o roi cenhinen i bersonél sy’n gwasanaethu, wrth y Gofeb Ryfel yn Dunraven Place, am 11am, gydag Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, Peter Vaughan.

Ar ôl y seremoni, bydd yr orymdaith, a fydd yn cael ei harwain gan Fand y Gwarchodlu Cymreig, ac a fydd yn cynnwys 60 o Fataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig, 250 o Gyn-filwyr Cymdeithas y Gwarchodlu Cymreig, a hyd at 50 cadét, yn gorymdeithio unwaith eto drwy ganol y dref, ac yna bydd gorymdaith heibio'r Gofeb Ryfel a saliwt i'r Arglwydd Raglaw, cyn dychwelyd i’r Ganolfan Fowlio.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a heddlu De Cymru yn cynnig cymorth gyda threfniadau’r digwyddiad, a’r cyngor hefyd yn cynnig Grant Cymorth Digwyddiadau Twristiaeth, wedi’i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Welsh Guards
Cydnabyddiaeth llun: Stephen Jacob
  • Cynghorir trigolion a busnesau y bydd mynediad ffordd i ganol y dref yn cael ei gyfyngu o 8am hyd nes 1pm, ac yn ystod yr amser hwn, ni fydd unrhyw ddanfoniadau yn cael mynediad i strydoedd canol y dref.

  • Bydd ffyrdd ar gau a chyfyngiadau parcio yn eu lle ar hyd llwybr yr orymdaith, a fydd yn cynnwys ffyrdd ar gau rhwng 09.45am a 10.45am, a 11.45am - 12.45pm yn Stryd yr Angel a Rhiw Hill.

  • Bydd parth dim parcio hefyd yn ei le rhwng 8am a 1pm yn Stryd Derwen a Rhiw Hill.

  • Bydd llwybr yr orymdaith hefyd yn cynnwys Stryd y Dŵr, Stryd y Frenhines, Stryd Caroline, Stryd Adare, York Place, Stryd y Farchnad, Stryd Wyndham a Dunraven Place, a ffensys rheoli cynulleidfa yn cael eu gosod ar bob stryd, o waelod Stryd Caroline i Stryd Adare.  Ni fydd unrhyw gyfyngiadau i fynediadau i siopau ar unrhyw adeg.

  • Bydd Maes Parcio’r Ganolfan Fowlio a’r Maes Parcio agored tu ôl i Ganolfan Hamdden Halo ar gau o 6pm ar ddydd Gwener 28 Chwefror tan 6pm ar ddydd Sadwrn 1 Mawrth 2025. Bydd y meysydd parcio hyn yn cael eu defnyddio fel lleoedd parcio ar gyfer Cymdeithas y Gwarchodlu Cymreig.

  • Disgwylir oedi wrth gyrraedd a gadael maes parcio Rhiw ddisgwyl gan y bydd mynediad i’r maes parcio yn cael ei atal am tua 30 munud, drwy gydol yr orymdaith. Bydd mynediad yn cael ei ganiatáu ar ôl i’r orymdaith fynd heibio. 

Cynghorir trigolion y gallant wynebu dirwy wrth adael eu ceir mewn mannau a allai achosi anghyfleustra i drigolion neu fusnesau. 

“Rydym yn eithriadol o falch o gefnogi Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn y deyrnged deilwng hon sy’n dathlu ein balchder cenedlaethol ac yn anrhydeddu ein cysylltiadau milwrol cryf o fewn y fwrdeistref sirol. “Bydd yn bleser mawr gweld Bataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig yn arwain yr orymdaith ac yn gorymdeithio drwy strydoedd canol tref Pen-y-bont ar Ogwr ar Ddydd Gŵyl Dewi. “Rwy’n annog yr holl drigolion i ymuno â mi, ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle anhygoel hwn i ddangos ein cefnogaeth at y Gwarchodlu Cymreig, ein cyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu, a choffáu ein hanes.”
“Rydym yn croesawu’r llu o ymwelwyr a fydd yn bresennol ar gyfer gorymdaith gyntaf y Gwarchodlu Cymreig, ers 2019. “Bydd hwn yn gyfle i roi hwb anhygoel i fusnesau lleol yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn gyfle gwych i rannu a dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein cymuned”

Chwilio A i Y

Back to top