Gwahodd y cyhoedd i ofyn cwestiynau cyn dadl y Cyngor ar lifogydd ac effaith tywydd eithafol

Dydd Gwener 10 Hydref 2025

Mae trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gwahodd i gyflwyno cwestiynau drwy eu haelodau etholedig lleol cyn dadl y Cyngor ar y materion a'r problemau a all gael eu hachosi gan lifogydd a chynnydd mewn achosion o dywydd eithafol. 

Gyda'r ddadl i gael ei chynnal yn y Cyngor ddydd Mercher 22 Hydref, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cwestiwn yw 4pm ddydd Llun 20 Hydref. Cysylltwch â'ch cynghorydd lleol i rannu'ch cwestiwn – os nad ydych yn siŵr pwy yw eich aelod etholedig lleol, gallwch wirio ar-lein ar dudalen 'Dod o hyd i'ch cynghorydd lleol' yn www.penybontarogwr.gov.uk

Yng nghyfarfod y Cyngor ar 22 Hydref, bydd yr aelodau yn trafod y cwestiwn canlynol: "Mae achosion o dywydd eithafol yn effeithio ar y fwrdeistref sirol yn amlach. Gall hyn arwain at lifogydd, problemau gyda seilwaith priffyrdd a tharfu ar wasanaethau hanfodol, h.y. trydan a dŵr.
 
"Pa mor wydn yw Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth addasu i'r digwyddiadau hyn, y gellid o bosibl eu priodoli i newid yn yr hinsawdd, a phan fyddant yn digwydd, pa mor effeithiol ydym wrth gefnogi ein cymunedau?"

Bydd copïau o agenda’r cyfarfod yn cael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor yn yr wythnos cyn i'r cyfarfod gael ei gynnal. Bydd y cyfarfod yn cael ei we-ddarlledu, a bydd recordiad ar gael.

"Gall llifogydd ddigwydd am nifer o resymau – o gwlferi sy'n cael eu blocio gan dipio anghyfreithlon neu falurion sydd wedi'u golchi i lawr yr afon i systemau a dyfrffyrdd sydd wedi cael eu llethu gan y swm mawr o law. "Mae'r Cyngor yn gwirio'n rheolaidd i sicrhau bod cwlferi yn glir neu i gael gwared ar rwystrau a allai achosi problemau, ac mae gennym hefyd system o larymau cwlferi ar waith i'n rhybuddio am lefelau dŵr sy'n codi fel y gallwn ymateb i sefyllfa cyn gynted â phosibl. "Serch hynny, gall glaw trwm achosi problemau o hyd gan y gall arwain at 'orlwytho hydrolig' sy'n gorfodi'r dŵr sy'n rhedeg trwy system ddraenio i orlifo. "Gan fod amlder a graddfa digwyddiadau tywydd garw hefyd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf gydag achosion o law trymach na'r cyfartaledd, bydd y ddadl hon yn rhoi cipolwg ar y sefyllfa, a bydd yn ein helpu i ystyried pa mor wydn yw'r awdurdod o ran delio â llifogydd. "Gall trigolion lleol gefnogi hyn trwy gyflwyno cwestiynau perthnasol trwy eu cynrychiolwyr etholedig, felly ystyriwch gymryd rhan a manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn i gyfrannu at y ddadl."
delwedd o lifogydd ffordd

Chwilio A i Y

Back to top