Gwahodd y gymuned i ddigwyddiad ymgysylltu ynglŷn â safle newydd i Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

Dydd Iau 02 Gorffennaf 2026

Gwahoddir rhieni, gofalwyr ac aelodau o'r gymuned leol i ddigwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd i gael gwybod mwy am gynigion ar gyfer safle Ysgol Gymraeg Bro Ogwr fel rhan o raglen moderneiddio ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y sesiwn ymgysylltu yn cael ei chynnal wrth ddisgwyl y broses ymgynghori statudol cyn ymgeisio am ganiatâd cynllunio.  Mae'r datblygiad arfaethedig yn cynnwys ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, caeau chwaraeon, llifoleuadau, parcio, draenio, tirlunio a gwaith peirianneg cysylltiedig ar dir i'r gogledd o gylchfan Ffordd y Dywysoges ym Mracla.  

Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i weld y cynigion, siarad yn uniongyrchol ag aelodau o dîm y prosiect a gofyn unrhyw gwestiynau cyn i'r ymgynghoriad cynllunio ffurfiol ddechrau. 

Dyma’r manylion:

•    Dydd Mawrth 7 Gorffennaf 2026
•    Amser: 3.30pm i 6.30pm 
•    Lleoliad:   Neuadd Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Ffordd y Dywysoges, Bracla, CF31 2LN 

"Mae prosiect moderneiddio Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn fuddsoddiad pwysig mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn nyfodol ein pobl ifanc ar hyd a lled y fwrdeistref sirol. "Rydyn ni am sicrhau bod rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach yn cael cyfle i gael gwybod mwy am y cynigion, gofyn cwestiynau a rhoi adborth cyn i'r ymgynghoriad cynllunio statudol ddechrau. "Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect i ddod draw i'r digwyddiad ymgysylltu a siarad â'r tîm."

Gall unrhyw un nad yw'n gallu mynychu'r digwyddiad ond a hoffai wneud sylwadau ar y cynigion gyflwyno sylwadau i Asbri Planning Ltd drwy e-bostio mail@asbriplanning.co.uk neu anfon gair at:

Asbri Planning Ltd,
Uned 9 Oak Tree Court,
Mulberry Drive, 
Parc Busnes Porth Caerdydd,
Caerdydd,
CF23 8RS

Dylid cyflwyno sylwadau gan 21 Gorffennaf 2026 

Chwilio A i Y

Back to top