Gwaith adeiladu ar unedau Ystâd Ddiwydiannol Village Farm wedi dechrau

Dydd Mercher 24 Medi 2025

Mae gwaith ar gyfres o unedau busnes newydd yn Ystâd Ddiwydiannol Village Farm wedi dechrau ac yn mynd yn ei flaen yn esmwyth.

Mae'r gwaith adeiladu yn cael ei wneud gan Andrew Scott Ltd, sydd hefyd yn gweithio ar ailddatblygu Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl. Mae'r gwaith yn cynnwys wyth uned ddiwydiannol 420 troedfedd sgwâr, a fydd yn cael eu pweru'n llwyr gan ynni gwyrdd. Mae'r deunyddiau wedi cael eu cyrchu gan isgontractwyr o Ystâd Ddiwydiannol Village Farm ac maent wedi'u gosod â phaneli ffotofoltäig / solar a phympiau gwres ffynhonnell aer i helpu i leihau costau rhedeg i'r meddianwyr. Bydd gan bob uned bwynt gwefru cerbydau trydan hefyd.

Ymwelodd y Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai, a'r Prif Weithredwr Jake Morgan â'r safle yn ddiweddar i weld pa gynnydd oedd wedi’i wneud ar y gwaith.

“Rydym yn falch iawn o gynnydd y gwaith ar yr unedau hyn hyd yn hyn. Mae'r ffaith y bydd yr unedau hyn yn gwbl ecogyfeillgar yn gam enfawr ymlaen o ran cynaliadwyedd, ac maent yn faint perffaith i fusnesau sydd am gael eu lle eu hunain yn y fwrdeistref sirol. Rydym yn edrych ymlaen at gwblhau’r gwaith o adeiladu'r unedau hyn a'u gweld yn cael eu defnyddio.”
“Gwych oedd ymweld â'r safle adeiladu a chael cipolwg manylach ar yr unedau busnes sy'n cael eu hadeiladu yn Ystâd Ddiwydiannol y Pîl. Yr unedau hyn fydd yr unedau “gwyrddaf” y mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi'u hadeiladu ac mae'n gam enfawr i'r cyfeiriad cywir ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy. Mae eu lleoliad ar yr ystâd ddiwydiannol yn berffaith i fusnesau ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd gennym lawer o egin fusnesau yn yr unedau hyn pan fyddant yn agor yn swyddogol.”

Bydd yr unedau busnes yn cael eu marchnata i fusnesau ar wefan cyngor maes o law, a bydd y gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Pennawd Llun 1: (Ch – Dd) Robert Frowen, Rheolwr Tîm Datblygu Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio gydag aelodau o dîm Andrew Scott Ltd ar safle’r gwaith yn Ystâd Ddiwydiannol Village Farm, y Pîl.
Pennawd Llun 1: (Ch – Dd) Robert Frowen, Rheolwr Tîm Datblygu Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio gydag aelodau o dîm Andrew Scott Ltd ar safle’r gwaith yn Ystâd Ddiwydiannol Village Farm, y Pîl.

Chwilio A i Y

Back to top