Gwaith adnewyddu Neuadd Tref Maesteg yn cyrraedd rhestr fer Gwobr RICS Cymru

Dydd Iau 23 Gorffennaf 2026

Mae trawsnewidiad rhyfeddol Neuadd Tref Maesteg wedi cael ei gydnabod ar y llwyfan cenedlaethol ar ôl cyrraedd y rhestr fer yn y Categori Cymunedol yng Ngwobrau RICS UK Rhanbarth Cymru 2026.

Dewiswyd yr ailddatblygiad nodedig, dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Knox and Wells Ltd, Purcell Architects a Mace Ltd, fel un o bedwar lleoliad a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y categori hwn, ar ôl i gannoedd o geisiadau gael eu derbyn ar draws y gwobrau.

Mae Gwobrau RICS UK (Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig) yn dathlu pobl, prosiectau a sefydliadau rhagorol sy'n codi safonau ar draws yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Mae'r 'Categori Cymunedol' yn cydnabod prosiectau sy'n darparu gwerth cymdeithasol parhaol ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Dathlwyd y prosiectau ar y rhestr fer yn Seremoni Wobrwyo Ranbarthol RICS yng Nghymru, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 8 Gorffennaf 2026.

Mae'r gydnabyddiaeth yn dilyn adfer ac ailddatblygu'r adeilad rhestredig Gradd II eiconig yn llwyddiannus, sydd wedi cadw ei gymeriad hanesyddol yn ofalus wrth greu cyrchfan gymunedol a diwylliannol fywiog a modern yng nghanol Cwm Llynfi.

Mae'r prosiect uchelgeisiol wedi adfer Neuadd Tref Maesteg i'w hen ogoniant wrth gyflwyno cyfleusterau newydd o ansawdd uchel, gan gynnwys cyntedd gwydr trawiadol, theatr stiwdio a gofod sinema, llyfrgell fodern, canolfan hanes a threftadaeth leol, a chaffi. Heddiw, mae'r adeilad yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau celfyddydol, diwylliannol a chymunedol ar gyfer pobl o bob oedran, gan sicrhau ei fod yn parhau i chwarae rhan ganolog ym mywyd y dref.

Er na enillodd y prosiect y wobr ranbarthol, mae bod ymhlith y pedwar prosiect cymunedol gorau yng Nghymru yn gyflawniad sylweddol ac yn adlewyrchu ansawdd, uchelgais ac effaith barhaol yr ailddatblygiad.

"Mae cael eich cydnabod gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig fel un o'r pedwar prosiect cymunedol mwyaf rhagorol yng Nghymru yn anrhydedd aruthrol ac yn deyrnged briodol i bawb a helpodd i ddod â'r prosiect nodedig hwn yn fyw. Mae'r gwaith o adfer Neuadd Tref Maesteg wedi'i wneud gyda gofal a pharch mawr at hanes cyfoethog a threftadaeth bensaernïol yr adeilad. Fel un o dirnodau mwyaf gwerthfawr y dref, roedd yn hanfodol bod ei chymeriad hanesyddol yn cael ei gadw wrth greu gofod croesawgar, hygyrch sy'n diwallu anghenion cymunedau modern. Heddiw, mae neuadd y dref wrth galon Maesteg unwaith eto, gan ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf a rhaglen fywiog o weithgareddau celfyddydol, diwylliannol, addysgol a chymunedol. Mae'n enghraifft wych o sut y gall adfywio dan arweiniad treftadaeth roi bywyd newydd i adeilad hanesyddol, gan greu cyfleoedd i drigolion, denu ymwelwyr a chefnogi’r gwaith parhaus o adfywio’r dref. Mae cyrraedd y rhestr fer yn adlewyrchu gweledigaeth, ymroddiad ac arbenigedd pawb sy'n rhan o'r prosiect, ac rydyn ni’n hynod falch bod Neuadd Tref Maesteg wedi derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol hon ar y llwyfan cenedlaethol."
"Mae'n fraint i Awen fod wedi chwarae rhan yn ailddatblygu Neuadd Tref Maesteg ac yn fraint hyd yn oed yn fwy i'w gweithredu o ddydd i ddydd gyda chymuned Cwm Llynfi, ac er ei budd hi. Roedd yr enwebiad RICS yn wobr i bawb a chwaraeodd eu rhan dros flynyddoedd lawer i wireddu'r prosiect anhygoel hwn. Mae'n dangos sut y gall buddsoddi mewn diwylliant fod yn gatalydd gwirioneddol ar gyfer adfywio a rhoi hwb i economïau lleol."

Mae ailddatblygu Neuadd Tref Maesteg yn cynrychioli un o'r buddsoddiadau mwyaf yn y dref ers degawdau ac mae'n dangos sut y gellir adfer adeiladau hanesyddol yn sensitif i warchod eu treftadaeth wrth ddarparu manteision parhaol i genedlaethau'r dyfodol.

Neuadd y Dref Maesteg
Neuadd y Dref Maesteg

Chwilio A i Y

Back to top