Gwaith ar bont Melin Ifan Ddu i ddechrau ym mis Ionawr 2027

Dydd Iau 29 Hydref 2026

Disgwylir i waith hanfodol i ddisodli pont afon yr A4061 ym Melin Ifan Ddu ddechrau ym mis Ionawr 2027 wedi i arolygiadau nodi problemau gyda strwythur y bont. 

Bydd angen cau'r ffordd am gyfnod estynedig o fis Ebrill 2027 pan fydd dec y bont yn cael ei symud a'i ddisodli, ond bydd cyfnodau cau eraill o fis Ionawr 2027 tra bo gwaith cyfleustodau a pharatoi perthnasol wedi'i gwblhau. Yna bydd angen ailosod seilwaith y cyfleustodau ar ôl ailosod dec y bont. 

Nid oes unrhyw gyfnodau penodol ar gyfer cau'r ffyrdd, a bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i gwblhau'r gwaith mor gyflym ac effeithlon â phosibl.  

Bydd modurwyr yn cael eu dargyfeirio ar hyd yr A4093 yn Llangeinwyr a bydd arwyddion yn cael eu gosod o leiaf bedair wythnos cyn i'r gwaith ddechrau i roi rhybudd ymlaen llaw i ddefnyddwyr y ffordd.  Bydd arwyddion hefyd yn cael eu harddangos mewn ardaloedd ehangach er myn galluogi modurwyr i gynllunio eu teithiau yn unol â hynny.  

Mae trefniadau'n cael eu cadarnhau gyda darparwyr Trafnidiaeth Ysgol, a bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyfleu’n uniongyrchol i rieni maes o law. Bydd y cyngor hefyd yn rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer unrhyw wasanaethau eraill gan y cyngor y bydd y cau yn effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw. 

Mae’r cyngor wedi sicrhau £3.5 miliwn o gyllid trafnidiaeth ranbarthol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ddarparu seilwaith newydd hanfodol i helpu i ddiogelu'r llwybr ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. 

Bydd y cyngor a'i gontractwr, Centregreat Limited, yn darparu diweddariadau rheolaidd i breswylwyr cyn a thrwy gydol y gwaith. 

Dywedodd y Cynghorydd Gary Haines a'r Cynghorydd Eugene Caparros, cyd-Aelodau'r Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, fod y gwaith yn hanfodol i fynd i'r afael â phryderon diogelwch ac y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i darfu cyn lleied â phosibl. 

"Mae diogelwch yn rhan hanfodol o’r gwaith hwn, sy’n rhan o’r rhaglen cynnal a chadw priffyrdd brys hanfodol. Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i'r prosiect cymhleth a hanfodol hwn gael ei gwblhau. "Rydym yn cydnabod yr effaith y bydd cau ffyrdd estynedig yn ei chael ar drigolion a defnyddwyr y ffordd. Er nad yw'r hyd wedi'i gadarnhau eto, bydd y cyngor a'r contractwr yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i gwblhau'r gwaith mor effeithlon a chyflym â phosibl."
"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd rhannu gwybodaeth gyda thrigolion trwy gydol y prosiect hwn, a bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu ar newidiadau a datblygiadau allweddol. "Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus hefyd yn gynharach yr wythnos hon i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion cyn i'r gwaith ddechrau a bydd cyfleoedd ymgysylltu eraill hefyd yn digwydd wrth i'r prosiect fynd rhagddo."
pont afon yr A4061 ym Melin Ifan Ddu

Chwilio A i Y

Back to top