Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Gwaith dymchwel yr hen orsaf heddlu yn dechrau’n fuan
Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023
Bydd gwaith i ddymchwel yr hen orsaf heddlu yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn dechrau’n fuan gyda’r safle wedi’i nodi fel lleoliad posib ar gyfer campws Coleg Penybont newydd.
Bydd y contractwyr, Cardiff Demolition, yn dechrau’r gwaith dymchwel yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 20 Mawrth a disgwylir y bydd y gwaith yn cymryd hyd at 12 wythnos. Bydd mynediad i Cheapside a busnesau lleol yn cael ei gynnal yn ystod y gwaith dymchwel, er bydd y briffordd yn cael ei chulhau dros dro a bydd mân addasiadau i fannau croesi i gerddwyr. Bydd y contractwr yn cysylltu â busnesau lleol i gynghori ar y rhaglen waith cyn i’r gwaith dymchwel ddechrau.
Mae’r safle, yn Cheapside, yn rhan bwysig o gynlluniau adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer canol y dref.
Wedi i’r adeilad gael ei ddymchwel, bydd y safle, ynghyd â hen safle maes parcio aml-lawr Cheapside, yn cael eu prydlesu i Goleg Penybont, gan alluogi campws Heol y Bont-faen i gael ei adleoli i’r lleoliad newydd yng nghanol y dref.
Mae’r coleg yn bwriadu creu adeilad carbon sero net, gyda chyfleusterau dysgu ac addysgu 21ain ganrif ar gyfer addysg ôl-16 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda buddion cymunedol yn cynnwys theatr 200 sedd, siop goffi a mannau cyfarfod hyblyg.
Mae’n cynrychioli gwerth £50 miliwn o fuddsoddiad i sgiliau a hyfforddiant y bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac aelodau’r gymuned sydd angen cyfleoedd i ail-hyfforddi ac ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr. Ariennir y buddsoddiad hwn yn rhannol gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Bydd y campws coleg newydd, sy’n addas ar gyfer o leiaf 1,000 o staff a myfyrwyr, yn ysgogi adfywiad ehangach o’r ardal, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a chefnogi busnesau lleol. Yn y cyfamser bydd ein cynlluniau i ddatblygu gwell trafnidiaeth gyhoeddus yn ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad i'w gyfleusterau.
Ddydd Mercher 1 Mawrth, bydd Coleg Penybont yn cynnal digwyddiad ymgysylltiad â’r cyhoedd yn ei siop dros dro yng Nghanolfan Siopa Y Rhiw i amlinellu cynlluniau ar gyfer y datblygiad campws newydd. Mae croeso i bawb yn y tair sesiwn a gynhelir am 12.30pm, 2.30pm a 4.30pm. Am ragor o wybodaeth, neu i gofrestru ar gyfer sesiwn, ewch i wefan Coleg Penybont.