Gwaith glanhau yn prysur agosáu at gael ei gwblhau ar ôl gwersyll carafanau anawdurdodedig yng Nghaeau Chwarae Llidiard

Dydd Llun 22 Mehefin 2026

Mae gwaith glanhau ac adfer helaeth yng Nghaeau Chwarae Llidiard bellach yn agosáu at ei gwblhau ar ôl i wersyll carafanau anawdurdodedig adael. 

Aeth staff y cyngor i’r safle yn fuan ar ôl i'r garafán olaf adael y cae ac mae'r gwaith bellach yn agos at gael ei gwblhau, gyda disgwyl i'r ardal chwarae ailagor heddiw yn dilyn archwiliad diogelwch terfynol.

Mae contractwyr arbenigol ynghyd â staff y cyngor wedi treulio'r penwythnos yn glanhau, diheintio ac adfer yr holl ardaloedd y bu effaith arnyn nhw ac yn ymateb i’r materion y tynnwyd sylw atyn nhw gan aelodau o'r cyhoedd. 

Mae gwiriadau terfynol o’r cae cyfan bellach yn mynd rhagddynt.  

"Ein blaenoriaeth fu sicrhau bod y safle yn cael ei lanhau, ei adfer a'i wneud yn ddiogel i'r gymuned cyn gynted â phosibl ac mae'r ffaith bod gweithwyr y cyngor wedi dechrau'r gwaith glanhau o fewn eiliadau i ymadawiad y garafán olaf yn dyst i ymrwymiad ein staff. "Trwy gydol y broses, dilynodd y Cyngor y broses gyfreithiol briodol, a hoffem ddiolch i drigolion lleol am eu hamynedd a'u cydweithrediad trwy gydol yr wythnos ddiwethaf."
Caeau chwarae Litchard

Chwilio A i Y

Back to top