Gwaith i ddechrau ar fan cyhoeddus newydd ym Maes Parcio De Hillsboro Porthcawl

Dydd Iau 12 Mawrth 2026

Disgwylir i'r gwaith i drawsnewid maes parcio De Hillsboro ym Mhorthcawl yn fan cyhoeddus newydd bywiog ddechrau’n fuan fel rhan o gynllun gwella tir cyhoeddus gwerth £1.3 miliwn.

Bydd y prosiect yn gweld y maes parcio presennol yn cau ar 20 Mawrth 2026 i wneud lle am fan cyhoeddus o ansawdd uchel sydd wedi'i gynllunio i gefnogi gweithgareddau cymunedol, digwyddiadau a busnesau a gwella’r mynediad rhwng ardaloedd allweddol yng nghanol y dref a'r Metrolink. Bydd maes parcio cyfagos Gogledd Hillsboro, sy’n fwy o faint, yn aros ar agor fel arfer. 

Bydd y gofod newydd hefyd yn dathlu treftadaeth a hanes y safle trwy adfer nodweddion rheilffyrdd hanesyddol wrth greu amgylchedd gwyrddach, deniadol a hygyrch i drigolion ac ymwelwyr.

Bydd gwelliannau i ddulliau teithio llesol hefyd yn cael eu gwneud fel rhan o'r cynllun, gyda chysylltiadau gwell â'r Metrolink a chanol y dref, croesfan twcan newydd i wella diogelwch cerddwyr a beicwyr a llwybr newydd sy'n cysylltu Stryd y Doc â chanol y dref. 

Mae nodweddion allweddol eraill yn cynnwys unedau busnes dros dro, man cyhoeddus hyblyg sy'n gallu cynnal digwyddiadau a gweithgareddau, nodweddion chwarae anffurfiol, plannu blodau gwyllt i wella bioamrywiaeth ac apêl weledol, a gwella’r systemau draenio. 

"Bwriad y gwaith yw creu porth mwy croesawgar, hygyrch ac amgylcheddol gynaliadwy i ganol tref Porthcawl a bydd natur ansawdd uchel y gwaith hwn yn rhoi cipolwg o’r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni gyda'r cynllun adfywio glannau ehangach. "Mae hwn yn gyfle cyffrous a fydd o fudd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr ac mae'n braf bod treftadaeth reilffyrdd y dref yn cael ei hadlewyrchu yn y cynlluniau, tra hefyd yn cynnig hyblygrwydd i ddefnyddio'r gofod cyhoeddus ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyfleoedd busnes. "Mae hefyd yn wych bod treftadaeth reilffyrdd y dref yn cael ei adlewyrchu yn y cynlluniau, tra hefyd yn cynnig hyblygrwydd i ddefnyddio'r man cyhoeddus ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyfleoedd busnes."
Delwedd o sut olwg ddisgwylir ar y gofod cyhoeddus newydd yn Hillsboro South
Delwedd o sut olwg ddisgwylir ar y gofod cyhoeddus newydd yn Hillsboro South
Delweddau o sut olwg fydd ar y gofod cyhoeddus newydd yn Hillsboro South
Delweddau o sut olwg fydd ar y gofod cyhoeddus newydd yn Hillsboro South

Chwilio A i Y

Back to top