O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Gwaith trawsnewid yng Ngwarchodfa Natur Parc Bedford wedi dechrau
Dydd Gwener 21 Chwefror 2025
Mae disgwyl i Warchodfa Natur Parc Bedford, sy’n gartref i 18 hectar o ardal werdd ac adfeilion Gwaith Haearn Cefn Cribwr yr 18fed ganrif, elwa o drefniadau i wella mynediad, gyda gwaith eisoes wedi dechrau.
Wedi’i arwain gan dîm Gwella Mannau Gwyrdd y cyngor mewn partneriaeth â’r tîm Cadwraeth a Dylunio, ac wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae’r prosiect yn cynnwys gwelliannau sylweddol i fynediadau drwy’r parc, gan gynnwys ardal heneb Gwaith Haearn Bedford. Yn ychwanegol, bydd y prosiect trawsnewid hefyd yn creu parthau penodol, gan gynnwys ardal lesiant ac ardal bicnic.
Mae Gwaith Haearn Bedford, safle o werth treftadol sylweddol yng Nghymru, yn cynnig cipolwg unigryw ar orffennol diwylliannol y rhanbarth. Wedi’i sefydlu yn gynnar yn yr 19eg ganrif, chwaraeodd y gwaith haearn ran hanfodol yng nghynhyrchiad haearn, gan ddefnyddio adnoddau glo a chalchfaen lleol. Heddiw, mae ei nodweddion sy’n goroesi yn cynnig cysylltiad gwerthfawr i hanes diwydiannol y genedl, gan ei wneud yn lleoliad allweddol ar gyfer twristiaeth ac addysg dreftadol.



Mae’r contractwyr o Bort Talbot, Emroch Landscapes, dan oruchwyliaeth arbenigol Whittington Landscapes Ltd, wedi’u penodi i gwblhau’r gwaith ac yn gyfrifol am sicrhau bod y safle sensitif hwn yn cael ei reoli’n ofalus, wrth greu ardal sy’n fwy hygyrch a chynhwysol.
Mae eraill sydd wedi cyfrannu at y prosiect yn cynnwys yr artist, Ami Marsden, sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Cynffig i ddylunio meinciau derw pwrpasol ar gyfer y parc. Mae’r disgyblion wedi treulio amser mewn gweithdai yn cerfio dyluniadau eu hunain â llaw, yn dilyn ymweliadau i safle Parc Bedford i sbarduno ysbrydoliaeth. Yn ogystal, mae Marsden wedi dylunio paneli dur Corten fel rhan o drawsnewidiad y safle.
Fel rhan o'r cynllun hwn hefyd mae haneswyr lleol a stiwardiaid amgylcheddol o ‘Cefn Gwyrdd’, grŵp gwirfoddoli cymunedol sydd wedi ei ymroddi i gadwraeth y gwaith haearn am dros ddeugain mlynedd. Mae’r cynrychiolwyr, John a Carole Mason, wedi bod yn rhan annatod o weithio gyda’r awdurdod lleol i ddatblygu deunyddiau dwyieithog newydd ar gyfer y safle, yn ogystal â phecyn addysg i ysgolion, i sicrhau bod ymwelwyr yn gallu gwerthfawrogi ei hanes a’i arwyddocâd yn llawn.
“Mae Gwaith Haearn Bedford yn rhan anhygoel o’n dreftadaeth leol, ac mae’r prosiect hwn yn gyfle i adrodd ei stori mewn ffyrdd newydd a diddorol. Ein gobaith yw y bydd y gwelliannau yn ysbrydoli ymwelwyr o bob oedran i gysylltu â hanes y safle a deall ei ran yn siapio ein cymuned.”
“Mae’r prosiect hwn yn arddangos pŵer partneriaethau i gyflwyno newidiadau arwyddocaol. O wella cynefinoedd bywyd gwyllt, i greu ardaloedd cymunedol cynhwysol a dathlu ein treftadaeth, bydd Gwarchodfa Natur Parc Bedford yn ychwanegiad cymunedol sy’n gwasanaethu’r bobl a natur, fel ei gilydd.”