O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Gwaith yn dechrau'n fuan ar doriadau tân Comin Lock
Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn dechrau gweithio ar Gomin Lock ym Mhorthcawl yn fuan i ailddiffinio a lledu'r toriadau tân sydd eisoes yn bodoli.
Gofynnir i bobl fod yn ofalus wrth ymweld â'r safle'r wythnos nesaf, i gadw cŵn ar dennyn a chynnal pellter diogel oddi wrth y peirianwaith wrth i waith fynd rhagddo.
Mae Gwarchodfa Natur Leol Comin Lock yn dechrau lle roedd promenâd gwreiddiol Porthcawl yn gorffen ac mae'n ymestyn i draeth Rest Bay. Mae'n cynnal nifer fawr o adar, glöynnod byw a blodau gwyllt.
Ar ôl nifer o danau dros y blynyddoedd diweddar, ynghyd â hafau eithriadol o boeth, bu'n rhaid torri toriadau tân yn y cynefinoedd prysgwydd, er mwyn cyfyngu ar effeithiau a lledaeniad tanau posibl yn y dyfodol. Mae'r toriadau hyn yn helpu i gyfyngu ar effaith tanau, lleihau faint o gynefinoedd prysgwydd sy’n cael eu colli a chyflymu'r broses ailwladychu prysgwydd. Yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 20 Chwefror, bydd y gwasanaeth tân yn ail ddiffinio a lledu'r toriadau tân sydd eisoes yn bodoli cyn dechrau'r tymor nythu.
Ychwanegodd Chris Deacon, Rheolwr Gwylio Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Byddwn yn defnyddio offer torri arbenigol ar ffurf ffust robotig sy'n cael eu rheoli o bell, sy'n cael ei defnyddio i gyfyngu ar yr effaith ar gynefin ac i reoli tanau gwyllt."