Gwasanaeth bws i ddychwelyd trwy Mawdlam a Phwll Cynffig

Dydd Mercher 22 Hydref 2025

Disgwylir i wasanaeth bws sy'n cysylltu Mawdlam a Phwll Cynffig â Phen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl gael ei adfer ar ôl cymeradwyaeth gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei adnabod fel Gwasanaeth 63B ac yn cael ei weithredu gan First Cymru Buses Ltd fel rhan o'r contract llwybrau bws wedi’u cefnogi presennol. Bydd un daith yr awr, rhwng tua 9:41am a 3:39pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, yn cael ei dargyfeirio trwy Mawdlam a Phwll Cynffig.

Gwasanaethwyd y llwybr gan fws cyhoeddus ddiwethaf ym mis Awst 2019 ac mae cyllid i adfer y gwasanaeth wedi'i sicrhau drwy Grant Rhwydwaith Bysiau Llywodraeth Cymru, heb unrhyw gost ychwanegol i'r Cyngor.

Mae gwaith bellach ar y gweill i gwblhau trefniadau gyda First Cymru Buses Ltd, gyda dyddiad dechrau i'w gadarnhau unwaith y bydd y gweithredwr wedi cwblhau'r broses gofrestru statudol gyda'r Comisiynydd Traffig.

"Hoffwn ddiolch i bawb a weithiodd gyda'i gilydd i wneud hyn yn bosibl, gan gynnwys staff y cyngor, preswylwyr, aelodau wardiau, First Cymru a Llywodraeth Cymru. "Mae trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a hygyrch yn hanfodol ar gyfer cysylltu pobl leol â swyddi, addysg, gofal iechyd, siopau lleol a rhannau eraill o fywyd bob dydd. Edrychwn ymlaen at ddarparu diweddariadau pellach yn fuan iawn mewn perthynas â dyddiad dechrau'r gwasanaeth newydd hwn."
Llun o fws

Chwilio A i Y

Back to top