O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Gwasanaethau brys yn derbyn diolch am eu ‘hymateb cyflym’ yn dilyn damwain awyren Porthcawl
Dydd Mercher 14 Mehefin 2023
Mae’r Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi canmol gwasanaethau brys y rheng flaen am ymateb mor gyflym i ddigwyddiad yn gynharach heddiw pan gafodd awyren ysgafn ddamwain a chwympo i ddyfroedd bas ger Traeth y Dref ym Mhorthcawl.
Disgrifiodd tystion eu bod wedi gweld yr awyren yn ‘plymio i mewn i’r dŵr’ a throi wyneb i waered wrth i’r llanw barhau i ddod i mewn tua 9.20am.
Cafodd y peilot, a oedd yn teithio ar ei ben ei hun, ei gefnogi gan griwiau o fadau achub RNLI a lansiodd o Borthcawl a Phort Talbot wrth i Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyrraedd lleoliad y digwyddiad.
Hoffwn gydnabod ein gwasanaethau brys ar y rheng flaen a diolch iddynt am eu hymateb cyflym i’r digwyddiad fore heddiw pan blymiodd awyren ysgafn i ddyfroedd bas ger arfordir Porthcawl. Yn ffodus iawn, cafodd y peilot ei achub o’r chwalfa ac mae bellach yn derbyn gofal a chymorth. Mae lleoliad y ddamwain wedi’i ddiogelu er mwyn ei atal rhag peri perygl i forwriaeth, ac mae Cangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr yn ymchwilio i achos y ddamwain. Er bod damweiniau fel hyn yn brin, diolch byth, gallwn wastad ddibynnu ar ein gwasanaethau brys ar y rheng flaen i ymateb yn gyflym, a chynnig cymorth a chefnogaeth effeithiol.