Casgliadau ailgylchu a gwastraff - Ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 31 Awst, ac o ganlyniad bydd holl gasgliadau’r wythnos honno un diwrnod yn hwyrach na'r arfer hyd at ddydd Sadwrn 5 Medi.
Gweithredu gan y Cyngor i roi bywyd newydd i eiddo gwag hirdymor ym Maesteg
Dydd Mawrth 08 Medi 2026
Mae disgwyl i eiddo ym Maesteg sydd wedi bod yn wag ers 30 mlynedd gael bywyd newydd ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr lwyddo i sicrhau Gorchymyn Prynu Gorfodol (GPG) i'w helpu i allu cael ei ddefnyddio unwaith eto.
Roedd yr eiddo ar Neath Road wedi dod yn bryder i'r gymuned leol oherwydd ei gyflwr gwael, adroddiadau o weithgarwch cnofilod a phryderon y gallai pobl gael mynediad heb awdurdod. Roedd ei ymddangosiad hefyd yn cael effaith negyddol ar yr ardal gyfagos, sydd mewn ardal gadwraeth.
Archwiliodd y cyngor yr holl opsiynau oedd ar gael i annog y perchennog i weithredu, ond ar ôl i'r ymdrechion hirdymor hyn fod yn aflwyddiannus, cymerodd gamau i ennill rheolaeth o'r eiddo gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol.
Gweithiodd swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir mewn partneriaeth i sicrhau y gellir defnyddio’r eiddo unwaith eto fel rhan o strategaeth Eiddo Gwag y cyngor. Mae cyllid gan Gronfa Gorfodi Eiddo Gwag Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru hefyd wedi helpu i gefnogi'r gwaith sy'n gysylltiedig â sicrhau'r GPG.
Disgwylir i'r eiddo fynd i ocsiwn ym mis Hydref 2026. Ar ôl iddo gael ei werthu, bydd y cyngor yn gweithio gyda'r perchennog newydd i gefnogi'r gwaith o adnewyddu'r eiddo a'i alluogi i gael ei ddefnyddio unwaith eto.
"Mae galluogi eiddo gwag hirdymor i gael eu defnyddio unwaith eto yn rhan bwysig o'n gwaith i wella cymunedau lleol tra hefyd yn gwneud y defnydd gorau o gartrefi presennol. "Ar ôl tri degawd o ddirywiad ac o fod yn wag, mae preswylwyr a chynghorwyr lleol, yn ddealladwy, wedi bod yn galw am alluogi’r eiddo hwn i gael ei ddefnyddio unwaith eto. Hoffwn ddiolch i swyddogion o'r cyngor a'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir am eu hymdrechion hirdymor i ymgysylltu â pherchennog yr eiddo ac am sicrhau Gorchymyn Prynu Gorfodol ar ôl datblygu achos sylweddol. "Rydym nawr yn edrych ymlaen at weithio gyda'r darpar berchennog i helpu i sicrhau bod y cartref hwn yn cael ei ddefnyddio unwaith eto."