Gwelliannau 'hynod drawiadol' yn ansawdd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Iau 04 Medi 2025

•    Gyda chymorth y Cyngor, llwyddodd 92 y cant o blant i osgoi mynd i ofal yn 2024-25.
•    Roedd gostyngiad o 34 y cant yn nefnydd y Cyngor o weithwyr asiantaeth – o 41 i 7 y cant.
•    Mae ymgyrch recriwtio / cadw llwyddiannus wedi creu gweithlu cryfach, mwy sefydlog.
•    Mae 86 y cant o staff y Gwasanaethau Plant yn argymell gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae adroddiad newydd ar sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaethau cymdeithasol allweddol i blant a theuluoedd wedi datgelu sut mae'r awdurdod wedi cyflawni gwelliannau mawr ar draws pob un o'i gategorïau targed mewn llai na dwy flynedd.

Fe wnaeth adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ganfod bod gwelliannau wedi'u gwneud ar draws pedwar ar ddeg o feysydd allweddol yr oeddent wedi'u nodi yn flaenorol fel rhai sydd angen sylw yn ystod arolygiadau yn 2022–2023, ac mae'n nodi bod y Cyngor wedi 'blaenoriaethu gwasanaethau plant yn gyson i gefnogi gwelliannau parhaus ac amserol' sydd wedi 'cryfhau ansawdd a darpariaeth swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn sylweddol'. 

Mae'n canmol y blaenoriaethu gwelliannau o fewn trefniadau diogelu, ac mae'n disgrifio'r gwaith partneriaeth a'r cydweithrediad rhwng gwahanol asiantaethau sydd wedi'u lleoli o fewn Hyb Diogelu Amlasiantaethol Pen-y-bont ar Ogwr (MASH) fel enghraifft o 'arferion cadarnhaol'. 

Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod sut mae 'Ffocws ar y Teulu', cynllun strategol tair blynedd i wella gwasanaethau i blant a'u teuluoedd, yn darparu canlyniadau cynnar calonogol fel gostyngiad o 48 y cant yn nifer y plant sy'n cael eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant a gostyngiad o 16 y cant yng nghyfanswm y plant sydd wedi’u dyrannu i dimau arbenigol.

Mae 'Ffocws ar y Teulu' hefyd wedi galluogi gwell cymorth i dimau rheoli achos, comisiynu a lleoliadau yn ogystal â goruchwyliaeth gadarn o strategaethau cymorth i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cynnar, sydd i gyd wedi sicrhau 'canlyniadau sylweddol i bobl'. 

Mae'r adroddiad yn galw sefydlu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (GCC) yn 'newid cadarnhaol' sy'n gwella canlyniadau i bobl wrth leihau'r galw am wasanaethau a galluogi staff i 'gyflawni eu dyletswyddau statudol yn gyson'. Mae'n canmol sut mae gwelliannau mewn ansawdd yn cael eu gyrru gan fodel ymarfer sy'n seiliedig ar egwyddorion sy'n canolbwyntio ar atebion, yn seiliedig ar gryfder ac yn ymwneud â diogelwch. 

"Mae hwn yn adroddiad hynod drawiadol sy'n dangos cymaint y mae’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi gwella yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwy'n arbennig o falch o'r ffaith bod ymyrraeth gynnar wedi helpu 92 y cant o blant i osgoi mynd i ofal, a gyda diolch i ymgyrch recriwtio hynod lwyddiannus, rydym wedi lleihau ein dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth o 41 y cant i 7 y cant. "Mae hefyd yn galonogol nodi, wrth gael eu holi gan arolygwyr, dywedodd 86 y cant o'r staff y byddent yn argymell gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a bod yr adroddiad yn canmol yn gyson y cymorth corfforaethol a gwleidyddol gadarn sy'n helpu i yrru'r gwelliannau hyn ymlaen. "Bydd y Cyngor yn ceisio parhau i gyflawni'r llwyddiant hwn gan hefyd gryfhau meysydd eraill a amlygwyd gan yr adroddiad i wella ansawdd cyffredinol y gwasanaethau rydym yn eu darparu i blant lleol. "Yn cyd-fynd â chyhoeddi adroddiad AGC heddiw mae canlyniadau arolygiad gan Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae hyn hefyd wedi canfod bod gwasanaeth maethu'r Cyngor wedi gwella ym mhob maes targed gyda dim ond tri ohonynt angen rhywfaint o sylw pellach. Byddwn yn ystyried canlyniadau'r adroddiad yn ofalus iawn cyn mynd ag ef i'r Cabinet ynghyd â sawl cynnig newydd ar gyfer rhoi hwb i sut y gallwn recriwtio a chadw gofalwyr maeth."

Bydd adroddiad AGC yn mynd gerbron y Pwyllgor Craffu ar 25 Medi cyn ei drafod gan y Cabinet ar 21 Hydref 2025, a gellir ei weld ar-lein yn https://www.arolygiaethgofal.cymru/llythyr-gwiriad-gwella-awdurdod-lleol-gwasanaethau-plant-cyngor-bwrdeistref-sirol-pen-y-bont-ar-0.

Delwedd: Aelodau o ‘Rhaglen Recriwtio Ryngwladol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Plant’ Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn Gwobr Gofal Cymdeithasol Cymru yn gynharach eleni.
Aelodau o 'Raglen Recriwtio Ryngwladol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Plant' Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn Gwobr Gofal Cymdeithasol Cymru yn gynharach eleni.

Chwilio A i Y

Back to top