Gwelliannau Teithio Llesol: Sesiwn galw heibio ymgysylltu â'r gymuned a gwybodaeth

Dydd Mawrth 02 Medi 2025

Gwelliannau Teithio Llesol: Sesiwn galw heibio ymgysylltu â'r gymuned a gwybodaeth
Gwahoddir preswylwyr i sesiwn ymgysylltu i drafod llwybr Teithio Llesol arfaethedig yn ardal Ewenny Road yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr. 

Mewn dull graddol, mae'r llwybr arfaethedig yn cynnwys llwybr ar wahân i gerddwyr a beicwyr o'r bont reilffordd yn Heronston Lane, i gylchfan Ewenny Road ac yna i lawr tuag at fynedfa Ysgol Brynteg ar Ewenny Road.

Bydd cyfleoedd i adolygu darluniau a chynlluniau, gofyn cwestiynau, a rhoi adborth. Bydd swyddogion y cyngor yn bresennol ynghyd â chynghorwyr lleol.

•    Dyddiad: 25 Medi 2025 
•    Amser: Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 4:30pm a 7pm
•    Lleoliad: Ysgol Gyfun Brynteg, Ewenny Road, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3LE. Bydd y sesiwn yn llyfrgell yr Ysgol Isaf, felly parciwch yn yr ysgol isaf trwy fynedfa Heol Gam.

Mae Teithio Llesol yn golygu cerdded neu feicio ar gyfer teithiau byr dyddiol. Mae'n cynnwys teithiau i'r ysgol, i’r siopau, i’r gwaith a gorsafoedd trafnidiaeth. Gall hefyd gynnwys defnyddio cadeiriau olwyn trydan neu sgwteri symudedd. Nid yw’n cynnwys teithiau at ddibenion hamdden a chymdeithasu yn unig.

Mae mwy o wybodaeth am Deithio Llesol ar gael ar ein tudalen Teithio Llesol ar y we. 

 Arwydd teithio llesol

Chwilio A i Y

Back to top