Gwneuthurwr ceginau lleol yn hybu cynhyrchiant gyda chymorth y cyngor

Dydd Mercher 14 Ionawr 2026

Mae gwneuthurwr dodrefn cegin lleol wedi rhoi hwb i'w cynhyrchiant, diolch i gefnogaeth gan gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Sigma 3 Kitchens yn arbenigo mewn dylunio, gwerthu a gweithgynhyrchu ceginau pwrpasol, ac wedi bod yn gwasanaethu Cymru a'r DU ers dros 50 mlynedd. Ar ôl caffael uned gweithgynhyrchu ar Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, dyfarnwyd 'Grant Datblygu Busnes' o £50,000 i'r cwmni i helpu gyda phrynu peiriant drilio CNC newydd, a fydd yn eu galluogi i gyflawni sawl peth maen nhw wedi gorfod dibynnu ar drydydd partïon i’w cyflawni hyd yn hyn.   Mae 220 o aelodau staff llawn amser ac wyth aelod rhan amser yn cael eu cyflogi gan y cwmni a bydd agor llinell weithgynhyrchu newydd yn caniatáu iddynt sicrhau cyflogaeth barhaus.  

Yn ddiweddar, ymwelodd Maer y cyngor, y Cynghorydd Huw David, yr Arweinydd, John Spanswick, a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai, Neelo Farr, â safle Pen-y-bont ar Ogwr, i gael taith o amgylch y cyfleusterau a gweld y buddsoddiad newydd ar waith.

"Rydyn ni wedi cael perthynas hynod gadarnhaol gyda'r cyngor, maen nhw wedi bod mor anogol a chydweithredol gyda'r symud i Ben-y-bont ar Ogwr. Mae'r cyllid hwn wedi ein galluogi i brynu offer newydd, ac mae hynny wedi bod yn hwb enfawr i'n busnes a'n cynhyrchiant. Heb y grant, byddai'r pryniant wedi cael ei ohirio am o leiaf 12 i 18 mis, gan ei fod wedi cael ei symud i gynlluniau tymor hirach oherwydd cyfyngiadau ariannol. Mae'r gefnogaeth yn cyflymu ein cynlluniau ac yn sicrhau y gallwn symud ymlaen heb gyfaddawdu twf. O ganlyniad i'r buddsoddiad newydd, rydym wedi gallu creu swyddi newydd yn ein cyfleuster ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ei wneud yn safle mwy cystadleuol all gyflawni mwy. Er gwaethaf yr hinsawdd economaidd heriol, rydyn ni wedi cael blwyddyn gref, ac mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Rydyn ni’n mawr ein diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am ein cefnogi gyda'r grant; rydyn ni wir yn ei werthfawrogi."
"Mae'r tîm yn Sigma 3 wedi mynd o nerth i nerth ac rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi gallu eu helpu i ddatblygu ymhellach. Mae cael cwmni mor gryf ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn hwb enfawr i'r economi ac roedd yn wych gweld y peiriannau newydd ar waith."
"Roedd yn bleser llwyr ymweld â Sigma 3 a gweld yn uniongyrchol sut mae cefnogaeth y cyngor wedi eu helpu. Mae'r peiriannau hyn ar flaen y gad yn y maes, ac mae’r cwmni’n gwbl angerddol am y cynhyrchion maen nhw'n eu darparu. Byddwn yn argymell yn fawr i unrhyw fusnesau yn y fwrdeistref sirol gysylltu â ni am y grantiau sydd gennym i'w cynnig; mae digon o gefnogaeth ar gael, a allai fynd â'ch busnes i uchelfannau newydd."

I gael gwybod mwy am y cymorth busnes sydd ar gael, ewch i dudalen busnes ein gwefan.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Paul Crutcher, Sigma 3 Kitchens, Tracy Mortimer, Cydlynydd Menter Leol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Brian Lakin, Cadeirydd Sigma 3 Kitchens, y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai, y Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Simon Richards, Cydlynydd Menter Leol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn Sigma 3 Kitchens.
Paul Crutcher, Sigma 3 Kitchens, Tracy Mortimer, Cydlynydd Menter Leol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Brian Lakin, Cadeirydd Sigma 3 Kitchens, y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai, y Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Simon Richards, Cydlynydd Menter Leol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn Sigma 3 Kitchens.

Chwilio A i Y

Back to top