Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer yn dathlu'r gorau o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Gwener 29 Awst 2025
Mae arwyr tawel Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu cydnabod fel rhan o Wobrau Dinasyddiaeth y Maer eleni, gan ddathlu'r gwirfoddolwyr anhygoel, y codwyr arian, a’r pencampwyr cymunedol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
O godi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau lleol, i ddysgu cerddoriaeth, cynnal a chadw mannau cymunedol, gosod diffibrilwyr, a diogelu'r amgylchedd lleol, mae’r enillwyr eleni yn adlewyrchu’r gorau o’r fwrdeistref sirol.
Cyflwynwyd y gwobrau gan y Cynghorydd Heather Griffiths, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2024/25 a'i dirprwy, y Cynghorydd Huw David, sydd ar hyn o bryd yn Faer ar gyfer 2025/26.
Yr enillwyr yw:
• Tim Arnott – Cadeirydd clwb pêl-droed Carn Rovers, sydd wedi adeiladu'r clwb yn gymuned ffyniannus gyda mwy na 170 o chwaraewyr, gan ysbrydoli plant a phobl ifanc ar draws Cwm Garw.
• Adam Rhys Davies – Trydanwr sydd wedi rhoi ei amser a'i arbenigedd am ddim i osod diffibrilwyr ar draws Cwm Llynfi, gan ei gwneud yn un o'r ardaloedd gorau yng Nghymru o ran offer achub bywydau.
• Stephen Leonard Jones – Yr wyneb cyfeillgar y tu ôl i Ardd Gymunedol Garth, lle mae wedi gofalu am y tir ers dros ddegawd gan sicrhau bod y gofod bob amser yn lle o liw, heddwch a chofio.
• Louise Williams – Athrawes piano ym Maesteg y mae ei hangerdd am gerddoriaeth wedi gweld ei disgyblion yn cyflawni cyfradd lwyddo o 100% mewn arholiadau, tra hefyd yn codi dros £3,000 ar gyfer elusennau lleol trwy gyngherddau poblogaidd.
• Neil Mitchington – Codwr arian diflino a chonglfaen y gymuned, sydd wedi rhoi degawdau i wasanaeth cyhoeddus yn ogystal â chefnogi elusennau a chlybiau chwaraeon lleol. Mae caredigrwydd a thosturi wrth wraidd popeth mae'n ei wneud.
• Neville Granville – Hyrwyddwr gwirioneddol o dreftadaeth Cefn Cribwr, sydd wedi treulio dros 40 mlynedd yn gwarchod hanes a mannau gwyrdd yr ardal, gan gynnwys cofeb Trychineb Mwyngloddio Parc Slip.
• Gwasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr – Am ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc trwy gerddoriaeth, yn fwyaf diweddar gan fynd ag ysgolion lleol i berfformio yn Neuadd y Dref Birmingham fel rhan o'r Ŵyl Genedlaethol Music For Youth. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cymuned gynhwysol lle mae pobl ifanc yn cael mynediad at le diogel a'r cyfle i gymdeithasu â phobl ifanc eraill.
• Doug McCarthy – Ochr yn ochr â'i ddiweddar ffrind Phil Arkinsall, sefydlodd Doug y Six Bells Pub Quiz yng Nghoety, sydd wedi codi miloedd o bunnoedd at achosion da wrth ddod â'r gymuned at ei gilydd bob wythnos ers 2011. Mae hefyd wedi bod yn weithgar ym mywyd Coety ers blynyddoedd lawer yn cefnogi ei nifer o ddigwyddiadau amrywiol.
• Paula Lunnon – Gwirfoddolwr ymroddedig yn KPC Youth yn y Pîl am 25 mlynedd, gan helpu i gadw drysau'r ganolfan ar agor a sicrhau bod gan bobl ifanc le diogel, croesawgar i fynd.
• A Peace for Nature - Mae'r grŵp wedi dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd i gael gwared ar filoedd o deiars a gwastraff o Afon Ogwr, gan greu lle glanach, mwy diogel i'r cyhoedd a bywyd gwyllt.
Disgwylir i enwebiadau ar gyfer rownd nesaf Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer agor yn ddiweddarach eleni. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau maes o law.
