Helpwch i wneud y Nadolig yn arbennig i blant lleol trwy gefnogi Apêl Siôn Corn

Dydd Mercher 28 Hydref 2026

Mae preswylwyr a busnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i ledaenu rhywfaint o hwyl yr ŵyl trwy gefnogi Apêl Siôn Corn eleni.

Yn dilyn llwyddiant apêl y llynedd, a gododd dros £11,869.13, mae adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr unwaith eto yn cydlynu'r fenter flynyddol, gan helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc agored i niwed ledled y fwrdeistref sirol yn cael anrheg i’w hagor ar fore dydd Nadolig.

Mae rhoddion ariannol yn arbennig yn cael eu croesawu, gan ganiatáu i'r trefnwyr brynu anrhegion addas i blant a phobl ifanc o enedigaeth i 21 oed. Gall unigolion a busnesau gyfrannu ar-lein trwy Dudalen Just Giving Awen. Gall gweithleoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau hefyd gymryd rhan drwy drefnu gweithgareddau codi arian, fel gwerthiannau cacennau neu ddigwyddiadau wedi eu noddi.

Gall unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu rhodd adael anrheg newydd, heb ei lapio, mewn bag rhodd yn un o'r lleoliadau canlynol o: ddydd Llun 23 Tachwedd i ddydd Iau 3 Rhagfyr 2026:

  • Y Swyddfeydd Dinesig
  • Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr
  • Llyfrgell y Pîl
  • Llyfrgell Maesteg
  • Llyfrgell Porthcawl
  • Llyfrgell Pencoed
  • Llyfrgell Abercynffig

Mae oriau agor llyfrgelloedd i'w gweld ar wefan Awen.

Ar ôl eu casglu, bydd gwirfoddolwyr yn didoli ac yn lapio'r rhoddion, yn barod i'w dosbarthu i blant a phobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyfraniadau ariannol yw dydd Gwener 11 Rhagfyr 2026.

"Er bod llawer ohonom yn edrych ymlaen at dymor yr ŵyl, rydym yn cydnabod y gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd a llawn straen i rai teuluoedd, yn enwedig gyda phwysau ariannol parhaus. Bydd llawer o deuluoedd ar draws ein bwrdeistref sirol yn elwa o ychydig o gymorth ychwanegol y gaeaf hwn. Mae Apêl Siôn Corn yn helpu i ddod â chysur a llawenydd i blant a phobl ifanc na fyddai ganddynt unrhyw beth i edrych ymlaen ato ar fore dydd Nadolig fel arall. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n timau gweithgar yn y gwasanaethau cymdeithasol, ein cymunedau lleol hael a'n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen am eu cefnogaeth barhaus i'r apêl bwysig hon. Os gallwch sbario cyfraniad bach neu ychwanegu rhodd ychwanegol at eich rhestr siopa eleni, ystyriwch roi i helpu i wneud y Nadolig yn fwy disglair i blant lleol."
Apêl Siôn Corn 2026

Chwilio A i Y

Back to top