Hwb i dennis cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn cytundeb newydd gyda Tennis Cymru

Dydd Gwener 22 Mai 2026

Disgwylir i dennis cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael hwb gan gytundeb gweithredwr hirdymor newydd gyda Tennis Cymru i ddarparu hyfforddiant, gweithgareddau a gwaith cynnal a chadw cyrtiau ar draws sawl safle lleol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae naw cwrt mewn pedwar lleoliad – Heol-y-Cyw, Parc Lles Maesteg, Parc Griffin (Porthcawl) a Pharc Caedu (Cwm Ogwr) – wedi'u hadnewyddu trwy bartneriaeth rhwng Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA). Cefnogwyd y gwelliannau gan bron £520,000 o fuddsoddiad cyfunol.

Mae'r bartneriaeth newydd yn adeiladu ar lwyddiant Rhaglen Adnewyddu Parc yr LTA gyda’r nod o gynyddu cyfleoedd i bobl o bob oed a gallu wrth sicrhau bod y cyrtiau’n cael eu cynnal yn rheolaidd i safonau’r LTA.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys rhaglen tennis gymunedol gynhwysfawr sy'n cynnwys sesiynau wythnosol, cyfleoedd hyfforddi a gweithgareddau am ddim i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i helpu i wneud y gamp yn fwy hygyrch i breswylwyr lleol.

Mae Parc Lles Maesteg, Parc Caedu a Heol y Cyw wedi'u cynnwys yn y trefniant, a disgwylir i Barc Griffin ymuno unwaith y bydd trefniadau trwyddedu wedi'u cwblhau.

Bydd y bartneriaeth yn rhedeg am 12 mlynedd ac ar ôl cymeradwyo Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd swyddogion nawr yn cytuno ar delerau terfynol y contract gyda Tennis Cymru.

"Mae'r cyrtiau hyn wedi'u hadnewyddu yn gyfleusterau cymunedol gwych ac mae'r cytundeb hwn yn gam pwysig tuag at sicrhau eu bod yn parhau i fod yn hygyrch ac yn groesawgar ac i gael eu cynnal yn dda am flynyddoedd lawer i ddod. "Mae'n braf iawn gweld cyrtiau mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled y fwrdeistref sirol ac rydym am annog mwy o bobl i fwynhau'r buddion corfforol, cymdeithasol a lles mae tennis yn gallu eu dwyn, p'un a ydyn nhw'n codi raced am y tro cyntaf neu'n dychwelyd i’r gamp. "Mae'r cytundeb newydd hwn yn tynnu sylw at werth gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod ystod eang o gyfleoedd chwaraeon ar gael i breswylwyr ac ymwelwyr ar draws y fwrdeistref sirol."
Delwedd o gwrt tenis wedi'i adnewyddu'n ddiweddar

Chwilio A i Y

Back to top