Lansio menter faethu newydd i gefnogi plant a phobl ifanc mewn gofal preswyl

Dydd Iau 22 Hydref 2026

Mae Maeth Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn lansio menter faethu newydd i helpu plant a phobl ifanc sy'n byw mewn gofal preswyl ar hyn o bryd i symud i gartrefi teuluol cefnogol.

Nod y fenter yw cynnig ymdeimlad o berthyn, sefydlogrwydd a bywyd teuluol i blant a phobl ifanc, tra'n cynnal y perthnasoedd, yr arferion a'r gefnogaeth sy'n bwysig iddyn nhw.

Gall tyfu i fyny mewn amgylchedd teuluol cefnogol helpu plant a phobl ifanc i adeiladu hyder, datblygu cyfeillgarwch a mwynhau eu hobïau a'u diddordebau yn eu cymunedau lleol. Gall bywyd cartref sefydlog hefyd gefnogi presenoldeb yn yr ysgol a helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer addysg bellach a chyflogaeth yn y dyfodol.

Fel rhan o'r lansiad, gwahoddir aelodau'r cyhoedd i fynychu digwyddiad gwybodaeth yng Nghlwb Rygbi Bridgend Ravens ddydd Mercher 11 Tachwedd 2026, rhwng 4pm a 6pm.

Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i siarad ag aelodau o dîm Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr a gofalwyr maeth presennol, gofyn cwestiynau a dysgu mwy am y gwahanol fathau o faethu sydd ar gael, gan gynnwys maethu rhan-amser.

Mae'r fenter newydd wedi'i hanelu'n benodol at bobl sydd â phrofiad o gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma, ac a allai gynnig cartref maeth llawn-amser i blentyn sy'n byw mewn gofal preswyl ar hyn o bryd. 

Gallai plant a gefnogir drwy'r fenter fod wedi profi heriau fel esgeulustod, cam-drin domestig neu rianta anghyson, gan arwain at anghenion cymorth emosiynol, ymddygiadol neu gorfforol ychwanegol. 

Bydd gofalwyr maeth yn derbyn pecyn cynhwysfawr o hyfforddiant arbenigol, cymorth ariannol a chymorth proffesiynol, wedi'i deilwra i anghenion y plentyn a'u cartref. 

Bydd hyn yn cynnwys mynediad at weithiwr cymdeithasol ymroddedig, gwasanaeth cyngor ar alw, cymorth therapiwtig a hyfforddiant parhaus i helpu gofalwyr i ddeall ac ymateb i anghenion unigol y plentyn. 

Bydd gofalwyr hefyd yn derbyn taliad maethu arbenigol wythnosol o £800, ochr yn ochr â lwfans ychwanegol i'r plentyn yn seiliedig ar ei oedran.  

Bydd y trawsnewidiad o ofal preswyl i gartref maeth yn cael ei gynllunio'n ofalus, gan roi amser i'r plentyn a'r gofalwr maeth adeiladu perthynas cyn symud i mewn gyda'i gilydd.  

Maethu cymru -Cefnogi plant i symud o ofal preswyl i fywyd teuluol
Ar hyn o bryd mae gennym nifer o blant a phobl ifanc yn byw mewn cartrefi preswyl sy'n haeddu'r cyfle i dyfu i fyny a ffynnu mewn lleoliad teuluol. Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn annog pobl yn ein cymuned sydd â’r sgiliau perthnasol, y gwytnwch a’r cariad i ystyried gwneud ymrwymiad llawn-amser i faethu. Rydym yn cydnabod goblygiadau ariannol maethu llawn-amser ac yn gobeithio y bydd y fenter hon yn annog pobl sydd â phrofiad proffesiynol o gefnogi plant sydd wedi profi trawma cymhleth i ddod ymlaen."

I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o faethu sydd ar gael, ewch i Mathau o Faethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 


Gall unrhyw un nad yw'n gallu dod i’r digwyddiad hefyd gysylltu â thîm Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr am sgwrs anffurfiol, heb rwymedigaeth i ddod yn ofalwr maeth. 

Chwilio A i Y

Back to top