Lansio rhaglen Hyfforddiant Cymorth i Gyflogwyr Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mawrth 22 Ebrill 2025

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio rhaglen Hyfforddiant Cymorth i Gyflogwyr Pen-y-bont ar Ogwr (HCGP) yn swyddogol, menter arloesol sydd wedi'i chynllunio i gryfhau busnesau a gwella galluoedd y gweithlu ledled y rhanbarth.  Nod y cynllun arloesol hwn, sy'n rhan o brosiect Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, yw symleiddio'r broses recriwtio a hwyluso lleoliadau swyddi i breswylwyr sy'n awyddus ymuno â'r gweithlu.

Mae'r rhaglen HCGP yn cynnig casgliad cynhwysfawr o wasanaethau i gynorthwyo busnesau yn eu hymdrechion recriwtio, gan gynnwys treial gwaith pythefnos, lle gall busnesau werthuso darpar weithwyr mewn lleoliad go iawn. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnig hyfforddiant cyn ac yn ystod cyflogaeth, mynediad at becynnau hyfforddi wedi'u teilwra gan dîm HCGP, chwe mis o fentora mewn swydd wedi'i deilwra i fusnesau a'u cyflogwyr, ynghyd â chymorth personol parhaus.

Does dîm tâl am ymuno â rhaglen HCGP ac nid oes angen unrhyw ymrwymiad gan fusnesau. Bydd y tîm HCGP yn tywys cyflogwyr a gweithwyr trwy bob cam o'r broses.

Mae'r fenter hon yn gam sylweddol ymlaen i'n cymuned. Drwy ddarparu'r offer sydd eu hangen ar fusnesau i recriwtio a hyfforddi gweithwyr yn effeithiol, rydym yn cryfhau ein heconomi leol ac hefyd yn creu cyfleoedd amhrisiadwy i'n trigolion. Mae'r rhaglen HCGP yn dyst i'n hymrwymiad i feithrin twf a ffyniant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Anogir busnesau yn y fwrdeistref sirol sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen HCGP i gysylltu â'r tîm HCGP i gael rhagor o wybodaeth. Gellir cysylltu â nhw drwy ffonio 01656 815317 neu e-bostio jobs-employabilitybridgend@bridgend.gov.uk.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Chwilio A i Y

Back to top