Casgliadau gwastraff ac ailgylchu Gŵyl y Banc: Ni fydd casgliadau ar Dydd Llun 26 Mai 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 31 Mai 2025.
Lle ar gael ar y Pwyllgor Safonau
Dydd Mawrth 04 Mawrth 2025
Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr am benodi dau aelod Annibynnol (Cyfetholedig) i wasanaethu ar ei Bwyllgor Safonau. Mae'r Pwyllgor Safonau yn hyrwyddo ac yn cynnal safonau ymddygiad a chywirdeb uchel ar gyfer ei gynghorwyr lleol.
Ar hyn o bryd mae chwech aelod ar y Pwyllgor sy'n cynnwys aelodau annibynnol a chynghorwyr. Gwahoddir ceisiadau gan bobl uchel eu parch sydd ag enw da, sydd â gonestrwydd personol cryf a pharch tuag at eraill, y gallu i weithio fel rhan o dîm ac i weithredu gyda disgresiwn, yn ogystal â chred gref ym mhwysigrwydd dilyn a diogelu gwerthoedd moesegol mewn bywyd cyhoeddus.
Cynhelir tri chyfarfod Pwyllgor Safonau y flwyddyn ac yn ogystal cynhelir cyfarfodydd lle bo angen i benderfynu ar ganlyniad cwyn yn erbyn cynghorydd. Cynhelir y gwrandawiadau hyn yn ystod y dydd a byddant yn para un diwrnod yn unig fel arfer.
Mae taliadau i Aelodau Annibynnol (Aelodau Cyfetholedig) yn cael eu gosod gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
- Y gyfradd bresennol sy'n daladwy yw £238 am 4 awr a throsodd, neu £119 am lai na 4 awr.
Darperir hyfforddiant ar gyfer Aelodau Annibynnol.
Bydd y meini prawf a awgrymir ar gyfer llunio rhestr fer o’r ymgeiswyr fel a ganlyn:
- Dealltwriaeth o'r Cod Ymddygiad Enghreifftiol
- Dealltwriaeth / profiad o gynnal gwrandawiadau archwiliadol
- Dealltwriaeth o Lywodraeth Leol a rôl yr Aelodau
- Derbyn y gwerthoedd sydd eu hangen o fewn swydd gyhoeddus.
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Swyddog Monitro'r
Ymgeisiwch
I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol a'ch Curriculum Vitae at Laura Griffiths:
Dyddiad cau: 31 Mawrth 2025