Llwybr Diwylliant a Threftadaeth Maesteg yn agor yn swyddogol

Dydd Iau 25 Mehefin 2026

Mae llwybr treftadaeth newydd sbon yn nhref Maesteg wedi agor yn swyddogol, gan dreiddio i hanes cyfoethog a diddorol canol y dref.

Mae'r llwybr treftadaeth ddigidol yn cynnwys amrywiaeth o leoliadau a ddewiswyd gan bobl leol sy'n adrodd straeon diddorol am hanes a diwylliant yr ardal, gan gynnwys rhai busnesau lleol, eglwysi a chapeli, adeiladau hanesyddol a rhestredig a nodweddion diddorol eraill fel y 'Bont Haearn'.

Mae'r llwybr yn dechrau gyda chyflwyniad gan ddisgyblion o Ysgol Cynwyd Sant ac mae'n cynnwys 20 man i ymweld â nhw, gan gynnwys:

  • Neuadd y Dref Maesteg, wedi'i adrodd gan Aled Williams, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.
  • Sgwâr y Farchnad, wedi'i adrodd gan Camarthenshire Dairy Produce.
  • KMP Jewellers, wedi'i adrodd gan Mike Neweth. Mae'r busnes wedi bod yn weithredol ym Maesteg ers degawdau.
  • Y Murlun, wedi'i ariannu gan Gyngor Tref Maesteg.
  • Treharne Row, lle byddai glowyr yn byw ar y stryd.
  • Y Bont Haearn, a adeiladwyd ym 1835.
  • Canolfan Hamdden Maesteg, a oedd unwaith yn safle ffwrnais chwyth y Gwaith Haearn.
  • Parc Lles Maesteg, a ddatblygwyd dros 100 mlynedd yn ôl ym 1924.
  • Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion, gan ddechrau ei gweinidogaeth ym 1898.
  • Arcêd Bowrington, a enwyd ar ôl John Bowrington, ffigwr allweddol yn natblygiad diwydiannol y dref.
  • Commercial Street, sy'n cynnwys sawl tafarn.
  • Yr Aelwyd – safle'r ysgol Gymraeg gyntaf, wedi'i adrodd gan ddisgyblion Ysgol Cynwyd Sant.
  • Stryd y Bont, yn llawn straeon am Gwm Llynfi.
  • Capel Tabor, safle canu Anthem Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf.
  • Gorsaf Drenau Maesteg, sy'n gartref i'r orsaf segur yn yr isdyfiant.
  • Swyddfeydd a Neuadd Goffa Colonel North, adeilad rhestredig Gradd II.
  • Cerflun Dr William Hopkin Thomas a’r Gofeb Ryfel, a ddadorchuddiwyd ar 11 Tachwedd 1926.
  • Neuadd y Dref Maesteg heddiw, sydd bellach yn hyb cymunedol ffyniannus ers ei hailddatblygu yn 2022.

Gallwch gael mynediad i'r daith am ddim ar wefan Geotourist a thrwy lawrlwytho’r ap, gyda naratif sain llawn ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae hefyd ar gael ar wefan Visit Bridgend.

"Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â chydnabod mai pobl leol yw'r gwir arbenigwyr ar eu lleoedd eu hunain. Trwy gyfleu a rhannu eu straeon, rydym nid yn unig yn creu profiadau ystyrlon i ymwelwyr, ond hefyd yn dathlu hunaniaeth, cryfhau balchder cymunedol, a chefnogi adfywio mewn ffordd sy'n ddilys ac yn gynaliadwy. Er mai Maesteg yw'r lleoliad cyntaf, mae'r prosiect wedi'i ddatblygu fel model peilot y gellid ei gyflwyno ar draws rhannau eraill o'r fwrdeistref sirol ac o bosibl ymhellach ledled Cymru."
"Rwy'n falch iawn bod gan Maesteg lwybr treftadaeth ar agor i breswylwyr, yn enwedig o ystyried hanes cyfoethog y dref. Gyda Maesteg yn troi'n 200 eleni, mae'r prosiect hwn wedi dod ar adeg dyngedfennol i'r dref. Mae'n sylfaen gwych i unrhyw hanesydd ac mae wedi'i greu'n ofalus gyda mewnbwn gan bobl leol, gan wneud hwn yn brosiect cymunedol go iawn. Mae'r llwybr rhyngweithiol hwn yn gyfle i bobl ddysgu am hanes Maesteg, wedi'i adrodd gan y gymuned sydd wedi ei ffurfio, a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod. Byddwn yn annog unrhyw ymwelwyr â Maesteg i edrych ar y llwybr."

Datblygwyd y llwybr treftadaeth hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2026 gyda chyllid gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru ac fe'i rheolwyd gan staff o Ganolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru yn Ysgol Reolaeth Caerdydd (Karen Davies a Claire Haven-Tang) ac Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd (Rhiannon Packer) gyda naratif a churadu ychwanegol gan Graham Loveluck-Edwards a Jenny Hulme.

Cyflwyniad llwybr Diwylliant a Threftadaeth Tref Maesteg yn Neuadd y Dref Maesteg.
Cyflwyniad llwybr Diwylliant a Threftadaeth Tref Maesteg yn Neuadd y Dref Maesteg.

Chwilio A i Y

Back to top