Llwyddiant Baner Werdd i naw safle gwahanol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Llun 28 Gorffennaf 2025

Mae naw o safleoedd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn Gwobr fawreddog Baner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus i gydnabod eu cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, eu safonau amgylcheddol uchel, a'u hymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd uchel. 

Bydd Amlosgfa Llangrallo yn chwifio'i Baner Werdd am yr unfed flwyddyn ar bymtheg yn olynol, ac mae coetir Coed-yr-Hela ym Mhenyfai wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf. 

Yn ogystal ag Amlosgfa Llangrallo, enillwyd statws 'Llawn' hefyd gan Warchodfa Natur Parc Slip a Pharc Gwledig Bryngarw a Pharc Llesiant Maesteg, sy'n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chyfeillion Parc Llesiant Maesteg.

Mae Gardd Farchnad Caerau, Coetir Ysbryd y Llynfi, Gorsaf Dân Cwm Ogwr, Gwarchodfa Coed Tremaen a Gardd Gymunedol Man Gwyrdd Marlas i gyd unwaith eto wedi cael eu cydnabod gyda 'Gwobr Gymunedol' ochr yn ochr â Choed-yr-Hela.

Mae'r Faner Werdd yn ddyfarniad a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n cael ei gyflwyno i fannau gwyrdd sy'n bodloni meini prawf yn cynnwys cyfranogiad cymunedol cryf, rheolaeth amgylcheddol, bioamrywiaeth, tirwedd a threftadaeth a bod yn lle croesawgar.

“Mae'n wych clywed bod Baneri Gwyrdd wedi cael eu dyfarnu i gynifer o wahanol safleoedd ledled y fwrdeistref sirol. Mae'n werth nodi bod llawer o'r lleoliadau hyn wedi cyflawni'r wobr am sawl blwyddyn yn olynol a diolch i ymroddiad yr holl staff a gwirfoddolwyr y mae hyn. "Mae'n amlwg bod mannau gwyrdd o fudd mawr i iechyd corfforol a meddyliol ymwelwyr a hoffwn annog pob preswylydd i wneud yn fawr o'r lleoliadau gwych hyn."
"Rydym wrth ein bodd o weld bod 315 o fannau gwyrdd yng Nghymru wedi cyflawni statws nodedig y Faner Werdd, sy'n dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. "Mae cael eich cydnabod ymhlith y goreuon yn y byd yn gyflawniad enfawr - Llongyfarchiadau!"

Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus - www.keepwalestidy.cymru

Chwilio A i Y

Back to top