Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau AM DDIM i bobl 11 oed a hŷn drwy gydol y gwyliau - Rhaglen yr Haf
Llwyddiant i ddosbarthiadau coginio cymunedol Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Mawrth 29 Gorffennaf 2025
Fel rhan o'i hymgyrch i greu cymdeithas gynaliadwy ac iachach drwy ddatblygu system fwyd fwy teg a maethlon, mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr wedi trefnu cyfres o sesiynau coginio am ddim mewn cymunedau ledled y fwrdeistref sirol.
Mae'r cyrsiau chwe wythnos wedi deillio o uwchgynhadledd fwyd y bartneriaeth a gwaith ymgysylltu â'r gymuned, gyda'r dosbarthiadau'n estyn allan i ardaloedd o'r gymuned leol mewn ymgais i ddatblygu sgiliau coginio, meithrin dealltwriaeth faethol, a chodi hunan-barch.
Cynhaliwyd y gyfres gyntaf o sesiynau gan Tanio, elusen gelfyddydol gymunedol sydd wedi'i lleoli ym Metws, ac yng Nghanolfan Bywyd Eglwys Bethlehem, Cefn Cribwr.
"Gwnaeth y sesiynau coginio gynnig cyfle gwych i'n cyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau coginio mewn lleoliad hwyl, anffurfiol. Gwnaeth y sesiynau diddorol hyn nid yn unig gynnig arweiniad maethol gwerthfawr ond hefyd roi hwb sylweddol i les, ymdeimlad o gysylltiad a hyder mynychwyr. Cafodd pob sesiwn ei mwynhau'n fawr, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am y profiad".
Arweiniwyd y dosbarthiadau gan Jen Davis o Coginio ’Dan Gilydd Cymru, sefydliad sy'n cael ei redeg gan athrawon technoleg bwyd cymwys sydd â chyfoeth o brofiad, yn ogystal ag angerdd am addysgu sgiliau maeth a choginio.
"Roedd y gweithdai coginio i oedolion yn Tanio yn cynnwys llawer o elfennau o baratoi bwyd. Er enghraifft, rhoi cynnig ar gynhwysion newydd, dysgu ryseitiau a dulliau newydd o goginio, yn ogystal ag edrych ar sut i fwyta'n fwy cynaliadwy ac organig. Yn bwysicaf oll, roedd y gweithdai’n canolbwyntio ar goginio ar gyfer teulu - paratoi prydau hawdd, maethlon ar gyllideb, tra'n gwneud ffrindiau newydd".
"Am fenter anhygoel – cynnig gweithdai coginio am ddim o fewn cymunedau lleol i sicrhau hygyrchedd i bawb. Gellir cael cymaint allan o'r cyrsiau hyn - hunan-barch, sgiliau bywyd, cysylltiad a mwy. "Rydym wedi cael ymateb gwych i'r gyfres gyntaf o weithdai ac rwy'n siŵr y byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y sesiynau sydd wedi'u cynllunio yn y dyfodol. "Rwy'n edrych ymlaen at weld y gweithdai hyn yn cael eu sefydlu yn ein cymunedau, gan roi i’n trigolion y sgiliau i'w grymuso".
Daeth y gyfres gyntaf o sesiynau i ben ym mis Mehefin, gyda dosbarthiadau pellach i ddechrau ym mis Medi. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Lauren.Saunders@Bridgend.gov.uk.


