Mae cydweithredu’r Cyngor i gefnogi plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi’i gomisiynu gyda chontractiwr newydd

Dydd Mawrth 25 Mawrth 2025

The Behaviour Clinic, sef gwasanaeth gofal a therapi sy’n ystyriol o drawma, yw’r contractiwr newydd sy’n cefnogi’r cydweithredu a ailgomisiynwyd rhwng Cynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful drwy Bartneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg, gan gynnig darpariaeth arbenigol sy’n cael ei arwain gan therapi ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal mewn ymgais i hyrwyddo sefydlogrwydd o fewn eu lleoliadau gofal.

Mae’r gwasanaeth, sef ‘Gwasanaeth Cymorth Arbenigol i Blant Sydd Mewn Gofal (CLASS), wedi disodli’r ddarpariaeth gydweithredol flaenorol ‘Multi Agency Permanence Support Service’ (MAPSS) a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2025.

Wedi’i ariannu gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Gofal Iechyd a Chymdeithasol Llywodraeth Cymru, wedi’i gefnogi gan Bartneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg, cychwynnodd y cytundeb newydd ym mis Ionawr a bydd yn dod i ben ym mis Mawrth 2027, gyda’r opsiwn i ymestyn ar sail flynyddol am bedair blynedd arall, yn ddibynnol ar gael ei gymeradwyo ac ar y cyllid sydd ar gael.

“Rydym yn falch o gyfrannu at y weledigaeth o wasanaethau therapiwtig arbenigol o safon uchel ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghwm Taf Morgannwg. Mae creu gwasanaeth CLASS yn adlewyrchu ymrwymiad a rennir drwy sicrhau bod pobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth yn derbyn yr ymyriadau arbenigol y maent eu hangen i ffynnu. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r gwasanaeth hwn ac i weithio’n agos gyda phobl ifanc, gofalwyr ac ymarferwyr er mwyn hyrwyddo sefydlogrwydd a deilliannau positif sy’n gallu helpu pobl ifanc i gael dyfodol disglair.”

Ar draws y fwrdeistref sirol, mae’r gwasanaeth MAPSS blaenorol wedi cefnogi 157 o blant gydag amrywiol anghenion - gan gynnwys rhai sydd mewn lleoliadau maethu, preswyl, mabwysiadu a gwarchodaetharbennig.  Roedd y ddarpariaeth yn cynnig hyfforddiant i ofalwyr a staff preswyl yn seiliedig ar ofal sy’n ystyriol o drawma, yn ogystal â darparu ystod o weithdai perthnasol eraill er mwyn cefnogi eu rôl yn gofalu.

Mae ystadegau o fis Mawrth 2023 i fis Mawrth 2024 yn tanlinellu gostyngiad sylweddol yn nifer y plant a brofodd dri neu fwy o leoliadau gofal mewn un flwyddyn, gyda data’n datgelu lleihad o 10.8 y cant ym mis Mawrth 2023 i 6.2 y cant ym mis Mawrth 2024.  Mae hyn yn amlygu llwyddiannau cyfuniad o ddulliau sy’n cynnwys ymyrraeth MAPSS.

Wedi’i alinio gyda MAPSS, bydd CLASS yn parhau i gefnogi plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal sydd yn aml yn gallu bod ag anghenion emosiynol neu ymddygiadol sy’n gynyddol gymhleth a heriol a all arwain at y lleoliad yn mynd ar chwâl.  

Ei nod yw annog perthnasoedd positif a sefydlogrwydd o fewn y lleoliad gofal drwy wella hunan-reolaeth a strategaethau ymdopi’r plant a’r bobl ifanc, yn ogystal â darparu amrywiaeth o therapïau i’w cefnogi nhw a’u gofalwyr.

“Mae CLASS yn hyrwyddo cysylltiadau diogel, gan alluogi plant a phobl ifanc i gynnal lleoliadau gyda’u gofalwyr. Mae’r ddarpariaeth yn eu hannog i deimlo’n ddiogel, i ddatblygu cyswllt agos a pherthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt, a gall hyn ond arwain at dwf cadarnhaol a chydnerthedd yn y dyfodol. “Mae CLASS wedi’i alinio gyda Strategaeth Rhianta Corfforaethol yr awdurdod lleol, a’r Siarter Rhianta Corfforaethol cenedlaethol - ‘Addewid i Gymru’, y gwnaethom ei harwyddo ym mis Chwefror 2024. Mae hon yn addewid ar ein rhan i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yr un cyfle i gyflawni eu potensial ag sydd gan eu cyfoedion. We have and always will relentlessly strive for an equity of opportunity.”

Chwilio A i Y

Back to top