Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dod â blas newydd i ganol tref Maesteg

Dydd Llun 23 Mehefin 2025

Mae manwerthwyr bwyd poeth symudol lleol yn cael eu gwahodd i arddangos eu bwydlenni mewn digwyddiad bwyta gyda’r nos dros dro unigryw a gynhelir yn Sgwâr Marchnad Maesteg ddydd Gwener 1 Awst.

Gan roi cyfle gwych i fasnachwyr ddarparu ar gyfer cynulleidfa newydd, mae'r digwyddiad yn gobeithio cryfhau diddordeb yn economi’r nos yr ardal, yn dilyn adborth o ymgynghoriad diweddar a fynegodd yr angen am fwy o fwytai yng nghanol y dref.

Gall masnachwyr sydd â diddordeb mewn caffael y gofod dros dro gofrestru Datganiadau o Ddiddordeb ar wefan y cyngor, cyn dydd Gwener 4 Gorffennaf.

Gall gwerthwyr gysylltu â thîm Adfywio'r cyngor gydag unrhyw ymholiadau yn regeneration@bridgend.gov.uk

Bwyd poeth symudol
"Rwy'n falch iawn o gefnogi'r digwyddiad dros dro newydd a bywiog hwn, sy'n dilyn "For a Limited Time Only...? menter sy'n cefnogi busnesau newydd lleol, oedd yn llwyddiannus iawn. "Gyda ffi'r drwydded i fasnachu yn cael ei thalu gan y cyngor, mae hwn yn blatfform cyffrous ac unigryw i werthwyr bwyd lleol arddangos eu doniau coginio creadigol. "Mae Maesteg yn gymuned ffyniannus, ac mae hwn yn gyfle perffaith i roi hwb i economi’r nos sy'n tyfu yng nghanol y dref. "Edrychaf ymlaen at flasu'r bwyd hyfryd fydd ar gael!"

Chwilio A i Y

Back to top