Mae gofalwyr maeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu cynllun i ddileu’r gallu i wneud elw mewn gofal plant

Dydd Mawrth 04 Mawrth 2025

Ar y Diwrnod Gofal hwn (21 Chwefror) ymunodd Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr â’r gymuned faethu wrth amlygu’r buddion o ofal mewn awdurdod lleol wrth i Fil arloesol Iechyd a Gofal Llywodraeth Cymru ddechrau’r broses o ddileu elw o’r system gofal plant.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddileu’n gyfreithiol unrhyw elw o ofal preswyl neu faethu ar gyfer plant.

Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, dan arweiniad pobl brofiadol yn y maes gofal, a gofalwyr maeth awdurdodau lleol, yw dangos sut y bydd y polisi’n cefnogi pobl ifanc mewn gofal i barhau ynghlwm â’u hardal leol, cymuned, ffrindiau, a’u hysgol.

Y llynedd, llwyddodd 85 y cant o bobl ifanc dan ofal gofalwyr maeth awdurdod lleol, i aros yn eu hardal leol. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc dan ofal asiantaethau maethu masnachol lwyddodd i aros yn lleol, gyda 7 y cant ohonynt yn cael eu symud allan o Gymru’n gyfan gwbl.

Becky and Pete

Mae Becky a Pete o Ben-y-bont ar Ogwr wedi bod yn ofalwyr maeth awdurdod lleol ers 2006. Maent yn arbenigo mewn maethu plant sydd ag anghenion cymhleth, ac mae Becky’n ofalwr cyswllt hefyd – sy’n golygu ei bod hi wedi cwblhau hyfforddiant ychwanegol er mwyn iddi allu cynnig cefnogaeth i ofalwyr maeth eraill. 

“Rydym yn dewis maethu gyda’n hawdurdod lleol gan ein bod ni’n gwybod mai dyma’r lle gorau i fod o ran rhoi blaenoriaeth i’r plentyn, ac rydym wedi parhau i fod yma gan fod ein taith fel maethwyr wedi bod mor werth chweil. Mae cadw plant yn lleol wedi bod mor bwysig i ni, a gwyddom fod llawer mwy yn debygol o ddigwydd drwy ddwylo’r awdurdod lleol. “Wrth gwrs, gall maethu fod yn heriol iawn hefyd, ond rydym wedi bod mor ffodus o gael rhwydwaith cefnogol iawn o’n cwmpas, gan gynnwys swyddogion proffesiynol yn yr awdurdod lleol sydd wedi bod yno bob cam o’r daith gyda ni. Mae’r gymuned faethu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi tyfu ac mae hi mor werthfawr. Mae’n teimlo’n wirioneddol bod pawb yma i gefnogi’i gilydd, boed hynny dros goffi mewn grŵp cymorth, digwyddiad arbennig, neu o ddydd i ddydd. “Nid ydym yn ystyried ein hunain yn wahanol i unrhyw riant neu ofalwr arall allan yn y byd mawr, rydym wir yn caru ein plant ac yn gwneud ein gorau drostynt bob amser. Byddem yn annog unrhyw un sy’n ystyried maethu i gysylltu â’u hawdurdod lleol a chymryd y cam cyntaf hwnnw!”

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru wedi gosod nod uchelgeisiol o recriwtio dros 800 o deuluoedd newydd erbyn 2026 er mwyn darparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol, ac mae galw mawr am hynny o few y fwrdeistref sirol.  

“Fel awdurdod lleol, rydym yn gyfrifol am bob un plentyn sydd mewn gofal maeth. Fodd bynnag, gallai rhai asiantaethau ac elusennau gael eu comisiynu gan yr awdurdod lleol i ddarparu gofal maeth ar gyfer rhai o’r plant. Yn unol â nod Cymru i fod y wlad gyntaf yn y DU i ddileu’n gyfreithiol unrhyw elw o ofal preswyl neu faethu ar gyfer plant, byddwn yn ceisio unioni’r diffyg cydbwysedd wrth allanoli gofal a lleihau faint o elw a dynnir o’n costau. “Nid yw’r nifer o blant sydd mewn gofal maeth wedi newid rhyw lawer dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn anffodus mae’r nifer o ofalwyr maeth sydd ar gael wedi gostwng. Wrth roi’r polisi o waredu elw ar waith, byddwn yn parhau i gefnogi a hyfforddi aelodau ein tîm maethu lleol i’r eithaf, yn ogystal â recriwtio gofalwyr maeth newydd, a chefnogi gofalwyr o asiantaethau maethu masnachol wrth iddynt ddod atom ni. “Mae angen rhagor o ofalwyr maeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr; wrth faethu gyda ni, byddwch yn helpu plant a phobl ifanc lleol i gadw mewn cysylltiad â phopeth sy’n gyfarwydd iddynt a phopeth maent yn ei garu a’i fwynhau. “Gofynnwn i unrhyw un sy’n gallu cynnig eu hamser a’u gofal er budd plant yn y fwrdeistref sirol i gysylltu â Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch maethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: maethucymru.llyw.cymru

Chwilio A i Y

Back to top